Y Gymraeg mewn cynhadledd UEFA

  • Cyhoeddwyd
CwpanFfynhonnell y llun, UEFA

Noson arall a Chymru'n creu hanes eto yn Euro 2016 wrth i gwestiynau Cymraeg gael eu gofyn am y tro cyntaf yn y twrnamaint yn ystod cynhadledd i'r wasg swyddogol UEFA.

Ond roedd y noson yn fwy na hynny - fe ddaeth y rheolwr a'r capten i'r llwyfan yn hyderus, ond wrth ateb ambell gwestiwn, roedd Chris Coleman yn ymddangos dan deimlad.

Y cwestiwn ddenodd yr ymateb yna oedd: "Ai arwain y tîm ar y cae nos yfory fydd uchafbwynt eich gyrfa fel chwaraewr a rheolwr?"

"Dwi wedi meddwl am hynny ers tro," meddai cyn oedi am hir. "Ie, yn sicr."

Daeth y cwestiynnau sydd wedi cael eu clywed o'r blaen am ffitrwydd y garfan a Joe Ledley yn benodol, a'r tro yma daeth yr awgrym cyntaf o'r gwir am y chwaraewr canol cae dylanwadol.

"Mae e wedi gwneud yn rhyfeddol i gyrraedd lle mae e nawr," medd Coleman.

"Heb ddatgelu unrhyw gyfrinachau am nos yfory, fe allai ddweud ei fod e dan ystyriaeth i chwarae rhyw ran yn y gêm."

Y cymal 'rhyw ran' oedd yn arwyddocaol, ac yn awgrymu'n gynnil efallai na fydd Ledley, fel yr oedd llawer wedi ei obeithio, yn dechrau yn erbyn Slofacia ddydd Sadwrn.

Disgrifiad,

Y Gymraeg yng nghynhadledd UEFA yn y Stade de Bordeaux ddydd Gwener

Fel arall roedd y gynhadledd yn ddigon di-nod gydag Ashley Williams a Coleman yn ymddangos wedi ymlacio'n llwyr ac yn siarad yn rhwydd.

Ond yna fe gyhoeddodd swyddog UEFA oedd yn arwain y gynhadledd y byddai Osian Roberts yn dod i'r llwyfan i ateb cwestiwn neu ddau yn Gymraeg.

Gan nad oedd offer cyfieithu i'r Gymraeg ar gael, roedd rhaid i Bennaeth Materion Cyhoeddus Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Ian Gwyn Hughes, gyfieithu'r cwestiynau a'r atebion i'r Saesneg ar gyfer gweddill yr ystafell, ond roedd yn foment o hanes yn Stadiwm Bordeaux.

Ond un ateb gan Chris Coleman oedd yn crynhoi teimladau llawer efallai, pan ddywedodd:

"Ry'n ni wedi gweithio'n galed eithriadol i gyrraedd yma. Byddwn, fe fyddwn ni'n mwynhau, ond mae rhywun yn mwynhau cymaint mwy drwy ennill.

"Mae gennym y cyfuniad o weithwyr caled, ysbryd da ac ambell fflach o dalent aruthrol... gall unrhyw beth ddigwydd mewn pêl-droed, ond fe fydd y tîm yn mynd allan i wneud pawb yn falch."