Sut mae cyrraedd Y Fenni?

  • Cyhoeddwyd

Cyfeiriad y Maes yw Dolydd y Castell, Y Fenni, Sir Fynwy NP7 5DG.

Ewch i wefan dywydd BBC Cymru i weld rhagolygon y tywydd ar gyfer Y Fenni.

Click here for directions and weather in English

Sut i gyrraedd y Maes

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol

Lleolir y Maes yn nhref Y Fenni, ac mi fydd system bysiau gwennol yn cludo ymwelwyr i'r Maes o'r meysydd parcio. Bydd y bysiau'n rhedeg yn rheolaidd o ddechrau'r bore tan ar ôl y cyngherddau gyda'r nos, gydag ardaloedd penodedig ym mhob maes parcio ar gyfer ymwelwyr anabl.

Sut i gyrraedd y meysydd parcio

Traffig o'r canolbarth a'r gogledd orllewin - Dilynwch yr A479 / A40 i Gwrt y Gollen ger Crughywel ac i Faes Parcio 1.

Traffig o'r de orllewin, y de a'r de ddwyrain - Dilynwch yr M4 i Gyffordd 24 (Coldra) ac yna'r A449 tan cyffordd Rhaglan. Yna, dilynwch yr A40 i'r gorllewin tuag at Y Fenni.

Ar y gylchfan nesaf, cymerwch y pedwerydd allanfa - B4589 (Clytha) Hen Ffordd Y Fenni, er mwyn cyrraedd Maes Parcio 2 ym Mhenpergwm. Wrth adael y maes parcio, trowch i'r chwith, defnyddio'r allanfa gyntaf ar gylchfan Hardwick er mwyn dilyn yr A40 (canolbarth Lloegr) a dilynwch y ffordd ddeuol yn ôl i Raglan.

Traffig o Flaenau'r Cymoedd -Dilynwch yr A465 i gylchfan Hardwick ac yna'r A4042 (Casnewydd / Pont-y-pŵl) i Faes Parcio 3 Llanelen.

Traffig o'r gogledd ddwyrain - Dilynwch yr A465 i gylchfan Hardwick ac yna'r A4042 (Casnewydd / Pont-y-pŵl) i Faes Parcio 3 Llanelen.

Bydd darpariaeth ar gael i ailgyfeirio traffig os bydd unrhyw faes parcio yn orlawn neu os na ellir eu defnyddio am unrhyw reswm.

Sut i gyrraedd Maes B / Maes PeByll

Traffig o'r gorllewin- Gadewch yr A465 ar gyffordd Llan-ffwyst. Cymerwch y drydedd allanfa ar gylchfan Waitrose - A4143. Cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan nesaf - B4246. Ewch i'r chwith nesaf. (Cynllun cyffordd i'w gadarnhau.)

Traffig o'r dwyrain- Gadewch yr A465 yng nghyffordd Llan-ffwyst. Cymerwch yr allanfa gyntaf ar gyfer Llan-ffwyst - B4246. Ewch i'r chwith nesaf. (Cynllun cyffordd i'w gadarnhau)

Sut i gyrraedd y meysydd carafán, gwersylla teuluol a safleoedd glampio

Lleolir y Maes Carafanau a Gwersylla Teuluol ychydig dros ddwy filltir o'r Maes ar diroedd Ystâd Llanofer (ger Neuadd Llanofer oddi ar yr A4042). Bydd gwasanaeth bws gwennol (llawr isel) i faes yr Eisteddfod.

Traffig o'r canolbarth a'r gogledd orllewin - Dilynwch yr A479 / A40 drwy'r Fenni i gylchfan Hardwick. Cymerwch y bumed allanfa - A4042 (Casnewydd / Pont-y-pŵl)

Traffig o'r de orllewin, y de a'r de ddwyrain - Dilynwch yr M4 i Gyffordd 24 (Coldra) ac yna'r A449 i gyffordd Rhaglan. Dilynwch yr A40 i'r gorllewin tuag at Y Fenni. Wrth gylchfan Hardwick cymerwch yr allanfa gyntaf - A4042 (Casnewydd / Pont-y-pŵl)

Traffig o Flaenau'r Cymoedd - Dilynwch yr A465 i gylchfan Hardwick a chymryd y chweched allanfa - A4042 (Casnewydd / Pont-y-pŵl)

Traffig o'r Gogledd Ddwyrain -Dilynwch yr A465 i gylchfan Hardwick a chymryd y drydedd allanfa - A4042 (Casnewydd / Pont-y-pŵl)

Beicio

Bydd llefydd cloi beiciau o flaen prif fynedfa'r Eisteddfod.

Cludiant cyhoeddus

Trenau

Mae gwasanaeth trên rheolaidd o Gaerdydd a Gogledd Cymru. Mae'r Maes 15 munud o gerdded o'r orsaf. Bydd bws gwennol ar alwad o'r orsaf.

Bysiau

Mae gorsaf fysiau 5 munud o gerdded o'r Maes. Manylion ar wefan Traveline Cymru, dolen allanol.

Am fwy o wybodaeth ewch i wefan yr Eisteddfod Genedlaethol., dolen allanol

Mwy o straeon a newyddion o'r Eisteddfod Genedlaethol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol