'Angen buddsoddi yn nyfodol pêl-droed yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd
Mae llwyddiant Cymru wrth gyrraedd Euro 2016 yn "gyfle mewn miliwn" i fuddsoddi mewn pêl-droed llawr gwlad, yn ôl un o fawrion y gêm yng Nghymru.
Dywed Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru fod yna "fygythiad real" i ddatblygu chwaraewyr ifanc oherwydd toriadau gan gynghorau i gyfleusterau lleol.
Dywed Neville Southall, cyn gôl-geidwad Cymru gafodd 92 o gapiau: "Fyddwn ni ddim yn llwyddiannus os byddwn ni'n anwybyddu pêl-droed ar lawr gwlad."
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi £1miliwn y flwyddyn i ddatblygu'r gamp.
Dywedodd Mr Southall wrth raglen Sunday Politics Wales y BBC: "Dy ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd yn y dyfodol, felly mae'n rhaid edrych ar hyn fel cyfle mewn miliwn i newid y ffordd rydym yn gwneud pethau ar lawr gwlad."
"Rydym angen i bob plentyn yn yr ysgol yn chwarae pêl-droed, rydym angen i bob plentyn freuddwydio mai nhw fydd y Gareth Bale nesa.
"Ond rydym angen rhoi iddyn nhw'r cyfleusterau i chwarae, a rhoi hyfforddiant da.
"Fyddwn ni ddim yn cael llwyddiant os byddwn ni'n anwybyddu pêl-droed ar y lefel yma ac mae angen meddwl o ddifri am ble mae plant yn gallu chwarae pêl-droed."
Dywedodd cyn gadeirydd Chwaraeon Cymru, yr Athro Laura McAllister fod Euro 2016 yn "gyfle enfawr i chwaraeon yng Nghymru".
"Rwy'n gobeithio y bydd yn golygu y bydd pob bachgen a merch yng Nghymru yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn pêl-droed ar ba bynnag lefel," meddai.
"Mae angen gwell perthynas rhwng y cynghorau lleol, ysgolion, clybiau a sefydliadau chwaraeon.
"Os nad oes digon o gaeau chware, dyw plant ddim yn gallu chwarae. Mae mor syml â hynny."
Dywed Ymddiriedolaeth Cymdeithas Pêl-droed Cymru fod mwy o bobl yng Nghymru yn chwarae pêl-droed nag erioed o'r blaen.
Ond ychwanegodd Jamie Clewer, swyddog datblygu: "Mae yna her go iawn wrth symud ymlaen, gyda thoriadau i arian yr awdurdodau lleol a'r hyn mae'n ei olygu o ran cyfleusterau a buddsoddiad."
"Mae hynny'n fygythiad i bêl-droed ar y lefel yma, felly mae angen gwneud yn siŵr ein bod yn cydweithio gyda'r llywodraeth a llywodraeth leol, er mwyn sicrhau fod caeau chwarae ar gael. "
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn rhoi £1m bob blwyddyn i gefnogi pêl-droed llawr gwlad."
"Rydym yn gobeithio fod llwyddiant tîm Chris Coleman yn ysgogi pobl i chwarae pêl-droed."
Dywedodd llefarydd ar ran chwaraeon Cymru: "Mae yna fuddsoddiad sylweddol wedi ei wneud ym mhêl-droed Cymru.
"Rydym yn gwybod fod y niferoedd sy'n chwarae wedi cynyddu, ac mae'r brwdfrydedd yn sbardun arall i gadw cynnydd i fynd."
Bydd rhaglen Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Wales am 11:30 ddydd Sul, 19 Mehefin.