Pryder am ddyfodol gwaith glo brig Nant Helen ym Mhowys

  • Cyhoeddwyd
Glo brig

Mae cwmni Celtic Energy yn rhybuddio y gallen nhw orfod diswyddo 90 o'u gweithwyr ar safle glo brig Nant Helen ym Mhowys, yn dilyn cyhoeddiad diweddar RWE am ddyfodol gorsaf bŵer Aberddawan.

Ym mis Ebrill, dywedodd cwmni ynni RWE ei bod hi'n annhebygol y byddai gorsaf bŵer Aberddawan angen cyflenwadau sylweddol o lo y tu hwnt i fis Mawrth 2017.

Mae Celtic Energy wedi cynnal adolygiad o'i strategaeth a'i gynllun busnes yn dilyn y cyhoeddiad hwnnw.

Daeth y bwrdd i'r casgliad bod yn rhaid dechrau ymgynghori gydag undebau llafur a rhanddeiliaid eraill ar y posibilrwydd o roi'r gorau i'r gwaith ar safle glo brig Nant Helen ym Mhowys.

Os byddan nhw'n penderfynu gwneud hynny, mae 90 o swyddi'n debygol o ddiflannu.

Dywedodd Celtic Energy eu bod wedi'u gorfodi i sefyllfa lle mae'n rhai gwneud penderfyniadau anodd oherwydd hinsawdd economaidd o fewn y diwydiant glo, yn enwedig ym maes cynhyrchu trydan.

Disgrifiad o’r llun,

Aberddawan