Rhybuddion melyn am law trwm i Gymru dros y dyddiau nesaf

Dyma'r rhybudd ar gyfer dydd Sadwrn, ac mae un tebyg iawn mewn grym ar gyfer dydd Llun hefyd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi dau rybudd melyn am law trwm ar gyfer rhannau helaeth o Gymru dros y penwythnos a dechrau'r wythnos nesaf.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd fod disgwyl glaw trwm ddydd Sadwrn a dydd Llun yn yng nghanolbarth a de Cymru.
Gallai hyn darfu ar wasanaethau trenau a bysiau yn ogystal ag effeithio ar drafnidiaeth ar y ffyrdd.
Fe allai'r tywydd achosi llifogydd mewn mannau gan achosi difrod i rai adeiladau.
Mae'r rhybuddion melyn am law trwm mewn grym ar gyfer holl siroedd canolbarth a de Cymru rhwng 06:00 a 23:59 ddydd Sadwrn, ac yna rhwng 00:00 a 15:00 ddydd Llun.
Llifogydd eto?
Mae rhybudd y gallai hyd at 30mm o law ddisgyn yn eang ar draws de Cymru ddydd Sadwrn, ac y gallai hyd at 80mm gronni mewn ardaloedd uchel sy'n wynebu'r gwynt yn y de.
Wedi iddi gilio ddydd Sul, mae rhybudd arall tebyg iawn mewn grym i'r un mannau ddydd Llun.
Dywedodd y Swyddfa Dywydd y gallai'r glaw achosi llifogydd i rai cartrefi a busnesau, a'i bod yn bosib y bydd rhai yn colli cyflenwad trydan yn sgil y tywydd garw.
Daw y rhybuddion diweddaraf yn dilyn llifogydd difrifol yn y de-orllewin a Sir Fynwy yn ddiweddar.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd

- Cyhoeddwyd6 Tachwedd
