AS y Rhondda Chris Bryant yn gadael cabinet yr wrthblaid
- Cyhoeddwyd
Mae AS Y Rhondda, Chris Bryant ymysg nifer o bobl i ymddiswyddo o gabinet yr wrthblaid mewn protest yn erbyn arweinyddiaeth Jeremy Corbyn yn ystod ymgyrch refferendwm yr UE.
Dywedodd ar Twitter: "Mae angen rhywun newydd arnom i uno ac arwain Llafur."
Yn ei lythyr ymddiswyddo dywedodd Mr Bryant wrth Mr Corbyn: "Os ydych chi'n gwrthod camu o'r neilltu rwy'n ofni y bydd hanes yn eich cofio fel y dyn a dorrodd y Blaid Lafur."
Dywedodd fod ei "anallu i roi neges glir, ddiamwys i bleidleiswyr Llafur" wedi "cyfrannu'n sylweddol" i ganlyniad refferendwm yr UE.
•YN FYW: Yr ymateb i'r refferendwm ar 27 Mehefin , dolen allanol
•Mwy am Refferendwm yr UE ar Cymru Fyw , dolen allanol
Yn sgil penderfyniad Mr Corbyn i ddiswyddo'r llefarydd ar faterion tramor, Hilary Benn, am iddo fynegi diffyg hyder yn arweinyddiaeth y blaid, gwnaeth nifer o aelodau eraill cabinet Llafur ymddiswyddo - gan gynnwys llefarydd y blaid ar iechyd Heidi Alexander, y llefarydd Addysg Lucy Powell a Llefarydd yr Alban Ian Murray.
Roedd Mr Kinnock hefyd wedi rhybuddio y gallai'r blaid wynebu colledion mawr petai Jeremy Corbyn yn eu harwain i mewn etholiad cyffredinol eleni.
Dywedodd bod mandad Mr Corbyn yn perthyn i "oes wahanol", tra bod AS Wrecsam, Ian Lucas, yn dweud bod Llafur angen arweinydd newydd "ar frys".
'Popeth wedi newid'
Wrth siarad ar raglen Sunday Politics BBC Cymru, dywedodd Mr Kinnock: "Dydw i ddim yn ei weld e (Corbyn) fel rhywun gyda'r sgiliau a'r profiad sydd ei angen i'n harwain 'mlaen ar adeg ddigynsail fel hyn.
"Rwy'n derbyn fod yr aelodaeth wedi rhoi mandad anferth i Jeremy, ond roedd hynny ar adeg wahanol a ry'n ni'n sôn am nawr. Mae popeth wedi newid."
Ychwanegodd: "Mae'n rhaid i ni sicrhau'n bod ni'n mynd mewn i'r etholiad cyffredinol yna gyda'r arweinydd cywir yng nghyd-destun Brexit wedi refferendwm y DU."
Ond dywedodd Darren Williams, ysgrifennydd un o grwpiau asgell chwith y blaid, wrth BBC Cymru ei bod yn "siomedig nad yw Llafur yn uno o gwmpas Jeremy Corbyn."
Yn ôl Ian Lucas AS, mae wedi ysgrifennu at Mr Corbyn yn ei annog i ildio'r awenau. Ychwanegodd fod y penderfyniad i ddiswyddo Hilary Benn wedi'i siomi.
Meddai: "Roedd eich ymateb i'r refferendwm a'i ganlyniad wedi fy narbwyllo nad oes gennych ddealltwriaeth o'r materion sy'n ein hwynebu ac na fyddwch fyth yn cynrychioli'r ymateb credadwy Llafur sydd ei angen ar adeg fel hyn."
Meddai'r Arglwydd Hain, y cyn weinidog cabinet: "Mae wedi bod yn amlwg ers sbel nad yw mwyafrif y bobl fyddai fel arfer yn pleidleisio dros Lafur yn credu y gallai Jeremy ennill yr etholiad nesa' i ni.
"Dyna'r realiti na allwn ni ei anwybyddu. Dyna'r mater sydd angen i aelodau'r blaid a bleidleisiodd drosto edrych arno."
'Gemau hunanol'
Yn y cyfamser, mae'r AS Llafur Paul Flynn wedi cyhuddo aelodau cabinet y blaid o "chwarae gemau" tra bod swyddi mewn perygl.
Ysgrifennodd mewn blog: "Fe ddylen ni gyd fod yn canolbwyntio ar ailadeiladu hyder yn swyddi'r dyfodol wedi ergyd Brexit. Mae swyddi dur a gyda chwmnïau eraill fel Airbus Casnewydd mewn perygl.
Roedd 'na symud 'mlaen wedi bod yn ddiweddar wrth geisio adeiladu'r achos dros gadw swyddi dur yn y DU. Rydyn ni angen datganiadau cryf gan bob un o'r pleidiau y bydd y cydweithio'n parhau rhwng y DU a'r UE
Mae'n warthus fod pleidiau gwleidyddol yn chwarae gemau hunanol trwy ddiswyddo fel hyn fel rhan o frad wedi'i drefnu."
Dywedodd Mike Hedges, AC Llafur dros Ddwyrain Abertawe, wrth BBC Cymru: "Lai na 12 mis sydd ers i Jeremy Corbyn ennill y mandad mwya' i unrhyw arweinydd Llafur.
Roedd gan y refferendwm yma aelodau o'r blaid Lafur ar y ddwy ochr. Dydw i ddim yn deall pam bod rhai ASau yn beio Jeremy Corbyn am y canlyniad. Fe ddylen ni fod yn uno fel plaid y tu ôl i'r arweinydd er mwyn herio'r blaid Doriaidd."