Estyn: 'Angen mwy o amrywiaeth'

  • Cyhoeddwyd
Teenage boy (actor)Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Mae angen mwy o amrywiaeth yn y profiadau dysgu i'r addysg sy'n cael ei ddarparu ar gyfer disgyblion heriol, yn ôl y corff arolygu Estyn.

Maen nhw wedi bod yn arolygu'r ddarpariaeth i ddisgyblion sydd wedi cael eu gwahardd o'r ysgol, rheiny sy'n gwrthod mynd neu sydd ag ymddygiad heriol.

Amcangyfrifir bod tua 2,000 o ddisgyblion yng Nghymru yn cael eu haddysgu y tu allan i'r ystafell ddosbarth traddodiadol - gyda'r nifer yma wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl Estyn mae diffyg cwricwlwm eang yn gallu cael effaith negyddol ar gyfer cyfleoedd swyddi.

Dyw'r ffigyrau yma ddim yn cynnwys nac yn cyfeirio at blant sy'n cael eu haddysgu yn y cartref.

Mae'r rhan fwyaf o ddysgu y tu allan i'r ysgol yn cael ei wneud mewn unedau cyfeirio ar gyfer disgyblion neu gan diwtoriaid sy'n cael eu hanfon i gartrefi disgyblion.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Fe wnaeth Estyn ganfod:

  • Nifer bach o ddisgyblion sy'n cael eu dysgu gan arbenigwyr pwnc

  • Mae'n bosib na fyddan nhw yn derbyn addysg llawn amser - yn rhai achosion mae'r rhai sy'n derbyn addysg yn y cartref gan gynghorau yn derbyn tua 10 o addysg yr wythnos.

  • Mae'r cyfleoedd i barhau ac addysg cyfrwng Cymraeg yn "hynod o gyfunedig".

  • Mae'n bosib na fydd disgyblion ac anghenion addysg ychwanegol yn derbyn y cymorth sydd ei angen arnynt.

  • Bach iawn o ddisgyblion sy'n derbyn graddau A*-C mewn arholiadau TGAU yn y pynciau craidd o Gymraeg neu Saesneg, màths a gwyddoniaeth

Ar y llaw arall mae Estyn yn dweud fod yna enghreifftiau da o sut mae addysgu y tu allan i'r dosbarth yn gweithio - gan gynnwys prosiect sy'n rhoi cyfle i ddisgyblion sy'n hoffi pêl-droed a rygbi yn cael y cyfle i weithio gyda chlwb proffesiynol.

Mae prosiect arall yn rhoi cyfle i hyfforddi gyda chrefftau coed ar gyfer plant mewn ardaloedd gwledig.

Mae Estyn yn gwneud 17 o argymhellion ar gyfer gwelliannau ar gyfer ysgolion, awdurdodau lleol a Llywodraeth Cymru .