Cynog Dafis yn 'anesmwyth' gyda'r gair 'annibyniaeth'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn Aelod Seneddol a Chynulliad Plaid Cymru wedi dweud ei fod yn "anesmwyth" gyda'r defnydd o'r gair "annibyniaeth".
Daeth sylwadau Cynog Dafis wedi i Leanne Wood awgrymu y dylai ei phlaid ymgyrchu dros Gymru annibynnol yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Yn ôl arweinydd Plaid Cymru fe ddylai annibyniaeth o fewn yr UE gael ei roi ar yr agenda wedi'r refferendwm er mwyn "diogelu dyfodol Cymru".
Ond ar raglen y Post Cyntaf Radio Cymru, fe awgrymodd cyn AS Ceredigion a chyn AC Canolbarth a Gorllewin Cymru ei fod yn anghyfforddus gyda'r term sydd wedi ei ddefnyddio.
Ychwanegodd Mr Dafis hefyd ei fod eisiau "eglurhad clir" o beth yw ystyr cynnig Ms Wood.
Bydd Plaid Cymru yn cynnal cynhadledd arbennig i drafod y mater yn fuan.
'Anesmwyth'
Dywedodd Mr Dafis: "Rhaid i mi ddweud fy mod i yn teimlo bach yn anesmwyth am y pwyslais ar y gair 'annibyniaeth'.
"Ond, fel dwi yn deall, ystyr hynny mewn gwirionedd yw ail adeiladu Prydain ar linellau cyd-ffederal gyda'r gwledydd mewn perthynas agos iawn gyda'i gilydd....ac mewn sefyllfa o solidariaeth gyda gwledydd a rhanbarthau cyfoethog yn helpu rhanbarthau tlawd.
"Dyna oedd y weledigaeth oedd ym maniffesto'r blaid mis Mai eleni. Dwi'n gobeithio mai dyna fydd yr hyn y bydd Plaid Cymru yn ei wneud."
Gan gyfeirio at awgrym Ms Wood y dylai Plaid Cymru ymgyrchu dros Gymru annibynnol o fewn yr UE, ychwanegodd Mr Dafis: "Beth dwi eisiau ydi eglurhad clir o beth yw ystyr hynny a lle mae annibyniaeth ffurfiol yn ffitio i bolisi a gweithredoedd y blaid dros y 50 mlynedd nesa'.
"Mae'n bwysig iawn bod y blaid yn berthnasol i realiti'r sefyllfa ry'n ni'n ynddo yn ogystal â chael gweledigaeth tymor hir."