Ymhyfrydu yn yr 'hwyl' Gymreig
- Cyhoeddwyd
Yn 1916, gyda'r wlad yn dioddef colledion enbyd yn y Rhyfel Mawr, cafodd yr Ysgrifennydd Rhyfel ar y pryd, David Lloyd George, y syniad o gynnal Cymanfa Ganu fawreddog ym Mhafiliwn yr Eisteddfod yn Aberystwyth. Ei farn bendant oedd bod canu'n fendithiol ar bob achlysur.
Canrif wedi hynny, mae'r traddodiad yn parhau ac fe fydd dathliadau'r canmlwyddiant yn y Pafiliwn am 20:00 nos Sul o dan oruchwyliaeth yr arweinydd a'r darlledwr adnabyddus Alwyn Humphreys.
Yma mae Alwyn yn edrych nôl ar Gymanfa Ganu gynta'r Eisteddfod Genedlaethol, gafodd ei fynychu gan dros 11,000 o bobl.
Roedd mis Awst 1916 yn gyfnod cythryblus iawn gyda'r Rhyfel Byd Cyntaf yn ei anterth a cholledion bywyd aruthrol yn newyddion dyddiol. Roedd brwydr y Somme wedi digwydd rhyw ychydig dros fis yn gynharach, gyda marwolaeth rhyw 4,000 o Gymry yn yr ymgyrch i feddianu clwstwr o goed a elwid Mametz Wood.
I rai, roedd cynnal cymanfa ganu yn ystod cyfnod mor echrydus yn ffolineb llwyr ac yn ansensitif. Ond, oherwydd bod yr Ysgrifennydd Rhyfel ei hun, David Lloyd George, yn frwd dros y syniad ac yn credu'n gryf bod canu yn fendithiol bob amser, fe drefnwyd y digwyddiad hanesyddol.
Arwyddocâd arbennig
Doedd hon yn sicr ddim yn mynd i fod yn gymanfa gyffredin. Trefnwyd tri chyfarfod o ddwy-awr yr un am 10am, 2pm a 6pm ddydd Gwener, 18 Awst 1916.
Yn ei araith yng nghyfarfod yr hwyr, dywedodd Lloyd George ei fod yno fel aelod o bwyllgor gweithiol y gymanfa, a'i fod yn hynod briodol ei bod yn cael ei chynnal mewn cyfnod o ryfel oherwydd gallai'r gynulleidfa 'fynegi mewn cân deimladau nas gallent eu mynegi mewn geiriau'.
Heb amheuaeth fe fyddai arwyddocâd arbennig i ambell emyn a thôn. Yn ôl adroddiadau roedd rhai o'r milwyr Cymreig wedi canu 'Aberystwyth' wrth fynd 'dros y top', ac fe fyddai ei chynnwys yng nghymanfa 1916 yn naturiol wedi bod yn hynod deimladwy.
Yn y rhagair i raglen y gymanfa ceir eglurhâd o fwriad y cyfarfodydd: 'rhoddi cyfle i genedl grefyddol fynegi ei theimlad dyfnaf mewn amser mor enbyd - canu hymnau annwyl ar donau Cymreig yng nghanol rhyfel fwyaf y byd'.
Mae sôn hefyd fod dewis o donau wedi rhoi pwyslais ar alawon Cymreig a miwsig gan gyfansoddwyr diweddar fel Joseph Parry, John Ambrose Lloyd ac eraill.
Yn sicr fe gafwyd digon o gynnyrch ar gyfer y tri chyfarfod - 58 o emynau a 51 o donau. Yn rhyfeddol roedd disgwyl i'r gynulleidfa hefyd ganu tair anthem gan gynnwys 'Teyrnasoedd y Ddaear'!
I ambell feirniad cerdd yr Eisteddfod - rhai o gerddorion amlycaf Prydain fel Dr Henry Hadow, Prifysgol Durham a'r Dr H P Allen o Brifysgol Rhydychen, y ddau yn bresennol yn y gymanfa - roedd hi'n wyrthiol bod miloedd o bobl nad oedd erioed wedi cyfarfod o'r blaen, wedi dod at ei gilydd y bore hwnnw a chanu gyda'r fath safon a disgyblaeth.
Proffwydo dyfodol disglair
Ac yr oedd yno filoedd hefyd. Er mai lle i 6,000 oedd yn y pafilwn bu rhaid tynnu'r ochrau i lawr er mwyn cynnwys y tros 11,000 oedd wedi ymgynull - rhywbeth oedd yn bosib diolch i'r tywydd braf.
Fe wnaeth llwyddiant ysgubol y gymanfa honno achosi i nifer broffwydo y byddai dyfodol disglair iddi am flynyddoedd i ddod, a dyma ni eleni yn dal i'w chynnal 100 mlynedd yn ddiweddarach.
Er bod nifer o gymanfaoedd canu yn dal i gael eu cynnal ar draws Cymru heddiw - tros y ffin a thramor hefyd - rhaid cyfaddef bod yr arfer yn colli tir, hyn yn adlewyrchu'r trai mewn cynulleidfaoedd capeli ac eglwysi. Trist hefyd yw nodi bod canu llawn cynghanedd, mewn pedwar llais, yn prinhau yn yr oes sydd ohoni.
Serch hynny, mae'r traddodiad yn parhau, a chyhyd y bydd yr awydd am chwystrelliad ysbrydol wrth ymhyfrydu yn yr 'hwyl' Gymreig yn para', fe fydd y gymanfa ganu gyda ni am ganrif arall.