Ffigyrau tagfeydd M4 Llywodraeth Cymru yn 'gelwydd'

  • Cyhoeddwyd
M4

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o "ddweud celwydd" am dagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd ar adegau prysur.

Mae'r grŵp amgylcheddol, sydd yn erbyn y cynllun o ffordd osgoi'r M4, yn ddig am honiadau bod y draffordd "95% yn llawn" yn 2014.

Mae'n dweud bod ffigyrau'r llywodraeth yn dangos bod yr M4 yn ardal Casnewydd 76% yn llawn ar adegau prysur.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod honiadau'r grŵp yn "gamarweiniol".

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi beirniadu ffigyrau'r llywodraeth, gan ddweud bod ffigyrau traffig gafodd eu rhyddhau fis diwethaf yn dangos bod y ffigwr o 95% yn gywir ar bedwar achlysur yn unig.

'Gwastraffu £2bn'

Dywedodd cyfarwyddwr Cyfeillion y Ddaear Cymru, Gareth Clubb, bod y wybodaeth wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer taith ym mis Medi y llynedd.

"Fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddatgan bod y ffordd 85% yn llawn yn 2014," meddai.

"Ond ar adegau prysur, dy'n ni'n gweld rhai ardaloedd o'r M4 ger Casnewydd mor isel a 46% yn llawn.

"Mae'r ffigyrau yma'n dystiolaeth bod y llywodraeth wedi mynd i gryn dipyn o ymdrech i dwyllo pobl Cymru a gwastraffu mwy na £2bn ar gynllun sydd heb unrhyw resymeg pendant."

Taflen wybodaethFfynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Rhan o daflen wybodaeth oedd yn cael ei ddefnyddio gan Llywodraeth Cymru

Mae'r cynlluniau ar gyfer traffordd 15 milltir a phont chwe lôn dros Afon Wysg i leihau traffig o dwneli Brynglas.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Economi, Ken Skates: "Mae'r honiadau gan Gyfeillion y Ddaear yn gamarweiniol.

"Yr hyn dydyn nhw ddim yn ei ddweud ydi bod ein hystadegau yn dangos bod yr M4 80% yn llawn ger twneli Brynglas, sy'n codi i 95% yn bellach tua'r gorllewin ger cyffordd 28.

"Byddai cynllun yr M4 yn cael gwared ar y tagfeydd yma.

"Bydd yr ymchwiliad cyhoeddus lleol rydw i wedi'i gyhoeddi ar gyfer yr hydref yn gweld archwilydd annibynnol yn craffu ar holl agweddau'r cynllun cyn i benderfyniad gael ei wneud ar os fyddwn ni'n parhau gydag ef."