Angen 'lleihau'r defnydd o roi cyffuriau' i gleifion
- Cyhoeddwyd
Gydag ymchwil yn dangos fod y mathau mwyaf cyffredin o gyffuriau gwrthfeiotig yn dod yn llai effeithiol, mae prif feddyg Llywodraeth Cymru yn rhybuddio bod rhaid gwneud rhagor i leihau faint sy'n cael eu rhoi i gleifion.
Oni bai fod hynny'n digwydd, yn ôl Dr Chris Jones, Prif Swyddog Meddygol Cymru dros dro, fe allai'r meddyginiaethau rydym yn dibynnu arnyn nhw i ladd bacteria fod yn ddiwerth cyn bo hir.
Yng Nghaerdydd drwy gydol yr wythnos mae 14 aelod o'r cyhoedd wedi bod yn cwrdd i lunio argymhellion ar gyfer Llywodraeth Cymru.
Mae arbenigwyr yn dweud bod bacteria sy'n achosi afiechydon yn gynyddol yn gallu gwrthsefyll y meddyginiaethau sydd i fod i'w lladd, ac mae hynny wedi ei ddisgrifio fel argyfwng rhyngwladol gyda'r risg i ddynoliaeth cymaint â therfysgaeth neu newid hinsawdd.
Os yw cyffuriau gwrthfiotig yn cael ei defnyddio'n rhy aml mae'r broses yn cyflymu, yn ogystal does 'na ddim math newydd o wrthfiotig wedi'i ddarganfod yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf.
Felly, a yw meddygon yn rhy barod i'w rhoi nhw neu a ydyn ni rhy awyddus i fynnu ein bod ni'n eu cael nhw?
Dyna'r cwestiynau mae'r 14 aelod o'r rheithgor dinasyddion wedi bod yn eu hystyried.
Ddydd Gwener fe fyddan nhw'n cyhoeddi'u dyfarniad ac mae Llywodraeth Cymru yn addo gweithredu ar y casgliadau.