Sir Fynwy: Cymru neu Lloegr?
- Cyhoeddwyd
Dyma'r ail dro i'r Eisteddfod Genedlaethol gael ei chynnal yn y Fenni - ond y tro cyntaf iddi ddod i Sir Fynwy. Sut hynny, meddech chi? Mae hanes ffiniau'r sir yn un ddryslyd - ac yn codi ambell i gwestiwn am ei hunaniaeth...
Dim ond ers 1996 mae'r Sir Fynwy bresennol yn bodoli, pan rannwyd yr hen Gwent yn Siroedd Mynwy, Blaenau Gwent, Caerffili, Casnewydd a Thorfaen.
Disodlwyd yr hen Sir Fynwy, a ddaeth i fod pan unodd Cymru a'r Gororau yn wleidyddol â Lloegr, yn dilyn y Deddfau Uno yn yr 16eg ganrif, pan gafodd Gwent ei chreu yn 1974.
Anodd plesio pawb
Dechreuodd y trafferth gyda'r Deddfau Uno, pan daeth Sir Fynwy o dan ddeddfau llywodraethu Lloegr.
O'r adeg hynny tan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, pan gafodd sir Gwent ei chreu - sir oedd heb amheuaeth yn un Cymreig - roedd statws genedlaethol Sir Fynwy yn destun dadlau.
Dros y canrifoedd felly, wrth i'r ffin symud a'r system lywodraethu newid, mae amwysedd wedi bod ynglŷn â pha wlad mae Sir Fynwy yn perthyn iddi.
Pan cafodd arfbais Cyngor Sir Mynwy ei dylunio yn 1948, roedd arni lew o Loegr yn gafael mewn rhosyn, a draig Gymreig yn dal cenhinen, a'r arwyddair arni oedd 'Utrique Fidelis', sef 'yn ffyddlon i'r naill a'r llall'.
Yn yr 1960au bu'r Royal Society of St George yn dadlau â'r gymdeithas Monmouthshire is Welsh a chafodd arwyddion 'Croeso i Gymru' yn yr ardal eu difrodi.
Tua'r adeg hynny, cafodd cynnig ei wneud i rannu'r sir yn gyfartal rhwng Cymru a Lloegr, neu hyd yn oed rhoi annibyniaeth llwyr iddi!
O'r diwedd cadarnhawyd fod Sir Fynwy yn rhan o Gymru pan basiwyd Deddf Llywodraeth Leol 1972 a ddaeth i rym yn 1974. Cafodd dinasyddion y sir yr hawl i bleidleisio yn refferendwm datganoli 1979, ac maent wedi cael eu llywodraethu gan lywodraeth ddatganoledig ers 1999.
Cryfhau Cymreictod
Er dirywiad yr iaith Gymraeg yn yr ardal yn ystod y 19eg ganrif, roedd elfennau eraill yn cryfhau'r ymdeimlad o 'Gymreictod' yn yr ardal.
Ar un adeg, roedd rhai o gemau cartref tîm rygbi Cymru yn cael eu chwarae yn Rodney Parade, Casnewydd. Roedd gan glwb Casnewydd gysylltiadau ag Undeb Rygbi Lloegr ac Undeb Rygbi Cymru - ond coch oedd lliw crysau y rhan fwyaf o chwaraewyr oedd yn chwarae ar lefel ryngwladol.
Pan ddaeth yr Eisteddfod Genedlaethol i'r sir gyntaf yn 1897 yng Nghasnewydd, cafodd ei alw yn 'act of repatriation' gan bapur newydd y South Wales Argus (er fod y bobl leol, gyda'u tafodiaith Gasnewydd gref yn galw'r ŵyl yn 'Stedvurd'!)
Ers 1897, mae'r Eisteddfod wedi ymweld â'r ardal chwe gwaith (Y Fenni, Pontypŵl, Casnewydd ddwywaith a Glyn Ebwy ddwywaith). Ac eleni, wrth i'r Eisteddfod ddychwelyd i'r Fenni am y tro cyntaf ers 1913, mae cyfle i ymhyfrydu yn hunaniaeth Gymreig y sir.