Ken Skates: 'Angen cyswllt economaidd Cymru a Lloegr'
- Cyhoeddwyd
Mae angen creu cysylltiadau economaidd agos rhwng canolbarth a gorllewin Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr, yn ôl ysgrifennydd economi Cymru.
Dywedodd Ken Skates wrth BBC Cymru bod "awydd mawr" i gydweithio er lles y ddwy ardal.
Mae Mr Skates am weld cydweithio rhwng y gorllewin a'r dwyrain er mwyn manteisio ar farchnad twristiaeth canolbarth Lloegr, yn ogystal â hyrwyddo cynnyrch.
Bydd Mr Skates yn cyfarfod mudiad Midlands Connect, sy'n cynrychioli 28 o gynghorau ac 11 o bartneriaethau menter.
Cydweithio
Dywedodd wrth BBC Cymru ei fod yn poeni bod Cymru yn methu allan ar gyfleoedd gan Lywodraeth y DU.
Mae cynllun i ogledd Cymru gydweithio gyda gogledd orllewin Lloegr eisoes yn cael ei drafod.
Dywedodd Mr Skates: "Yn fwyfwy mae'n edrych yn debyg i mi fod modd cydweithio rhwng canolbarth Cymru a gorllewin canolbarth Lloegr.
"Felly byddaf yn cyfarfod gydag arweinwyr Midlands Connect i sicrhau bod yr hyn sy'n cael ei gynnig gan ganolbarth Cymru yn cael ei fanteisio arno fel bod economi wledig canolbarth Cymru yn ffynnu fel rhan o economi'r DU."
Ychwanegodd bod cydweithio rhwng y gorllewin a'r dwyrain "yr un mor bwysig os nad yn bwysicach" na chydweithio rhwng y gogledd a'r de.
Dywedodd hefyd bod y tebygolrwydd o bobl o Loegr yn cymryd gwyliau yng Nghymru yn fwy yn sgil Brexit.
"Mae yna gyfle gwych yma rŵan a dydyn ni ddim eisiau methu allan."