Cyfle a chyfrifoldeb cyfarwyddwr newydd National Theatre Wales

  • Cyhoeddwyd
Kully Thiarai

Pan gafodd swydd cyfarwyddwr artistig National Theatre Wales ei hysbysebu, dywedodd Kully Thiarai bod rhaid iddi fachu ar y cyfle i ymuno â'r cwmni.

"Mae'n gwmni rhyfeddol," meddai wrth i ni aros i wylio actorion yn ymarfer ar gyfer ei gynhyrchiad nesaf.

"Roedd y cyfrifoldeb i greu celf fendigedig ar gyfer Cymru gyfan yn gyfle rhy dda i'w golli."

'Cyfrifoldeb enfawr'

Ymunodd eleni ar ôl i'r gymuned ddiwylliannol yng Nghymru ffarwelio â John McGrath, cyfarwyddwr artistig cyntaf National Theatre Wales (NTW), a adawodd i redeg Gŵyl Ryngwladol Manceinion.

Dan arweinyddiaeth McGrath mae NTW wedi sefydlu ei hun fel cwmni gwirioneddol genedlaethol, gan gymryd cynyrchiadau i fynyddoedd, maes awyr a neuaddau pentref ledled Cymru.

Naws y cwmni yw i fynd â Chymru i'r byd a dod â'r byd i Gymru. Yng nghyd-destun y mantra hynny fe aeth NTW i berfformio yn Japan, ac fe ddaeth ag actorion a chynhyrchwyr o bendraw'r blaned i weithio yma.

"Wonderman" oedd y sioe oedd yn cael ei ymarfer wrth i ni gwrdd. Mae'n gyd-gynhyrchiad gyda chwmni theatr Gagglebabble a fydd yn derbyn premiere yng ngŵyl y Fringe yng Nghaeredin cyn teithio o amgylch Cymru.

Mae'n seiliedig ar straeon Roald Dahl ar gyfer oedolion. Fe fydd hi'n flas o'r hyn sydd i ddod mis Medi pan fydd penwythnos o theatr fyw yn dathlu canmlwyddiant Dahl.

Gwaith eang NTW oedd wedi dal sylw Thiarai wrth iddi weithio fel cyfarwyddwr artistig theatr Cast yn Doncaster.

"Rwy'n credu bod NTW wedi gwneud ymrwymiad sylweddol i bobl, ac i lefydd, ar draws y wlad. Mae'r cwmni wedi cael effaith go iawn ar y genedl, ac yn rhyngwladol hefyd.

"Mae'n teimlo'n gyfrifoldeb enfawr i fi, ond mae hefyd yn gyfle cyffrous iawn i gymryd y llyw."

'Cynrychioli'r genedl'

Ar adeg ei phenodiad roedd llawer wedi'i ysgrifennu am gefndir Kully Thiarai; dim ond yr ail fenyw i redeg un o theatrau cenedlaethol y DU, a'r person cyntaf o dras Asiaidd i wneud hynny.

Ond nawr bod hi yn ei swydd, mae hi eisiau NTW i roi llais a gweledigaeth i gymunedau Cymreig sydd yn aml yn cael eu hanwybyddu, ac mae am i'r celfyddydau helpu i wireddu uchelgeisiau.

"Sut allwn ni greu creadigrwydd mewn cymuned, sut ydyn ni'n gallu cefnogi arweinyddiaeth mewn cymuned, sut ydyn ni'n galluogi pobl i ddefnyddio'r celfyddydau i ddod o hyd i'w hunaniaeth, ac i ddatrys problemau sy'n ein rhwystro rhag creu dyfodol gwell i bawb?

"Rwy'n meddwl bod yna ddau beth gall y celfyddydau wneud yn dda iawn, pethau mae National Theatre Wales wedi gwneud yn dda iawn hyd hyn.

"Y cyntaf yw helpu i lunio ac i adrodd straeon nad ydynt efallai'n cael eu perfformio ar ein llwyfannau cenedlaethol, ac yn cynrychioli'r genedl.

"Yr ail yw bod angen i ni greu dyhead a chael golwg ryngwladol o'r byd. Beth ydy lle Cymru yn y byd, a sut gallwn ni helpu siapio hynny? Gall y celfyddydau ein helpu i wneud hynny."

Mae Kully Thiarai wedi addasu yn gyflym i amrywiaeth un o rolau pwysica'r byd theatr.

Mae ei gweledigaeth yn benodol iawn. Mae hi eisiau torri ffiniau gyda theatr sy'n hynod ac yn hyderus.

"Ein huchelgais yw i barhau i wthio ffiniau'r celf," meddai. "Wrth arbrofi, ac wrth fod yn feiddgar ac yn ddewr yn ein gwaith, a'n bod yn cymryd ein cynulleidfaoedd gyda ni ar y daith."