Cyfle i'r cyhoedd weld fferm Oes Haearn yn Sain Ffagan

  • Cyhoeddwyd
Bryn EryrFfynhonnell y llun, Amgueddfa Werin Cymru

Mae Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan wedi agor fferm Oes Haearn, sy'n seiliedig ar safle archeolegol o gyfnod y goresgyniad Rhufeinig, i'r cyhoedd.

Bryn Eryr yw enw'r fferm, a oedd wedi ei lleoli yn wreiddiol ger Llansadwrn yn Ynys Môn.

Mae cannoedd o wirfoddolwyr gan gynnwys plant ysgol a phobl leol wedi bod yn helpu i adeiladu'r fferm, sy'n cynnwys dau dŷ crwn gyda waliau clai a thoeau gwellt, ac mae'r waliau yn chwe throedfedd o drwch.

Ers blwyddyn mae ysgolion wedi bod yn ymweld â'r safle a nawr fe all y cyhoedd hefyd fynd i weld y fferm.

Diolch i'r gwirfoddolwyr

Ar hyn o bryd mae Amgueddfa Werin Cymru yng nghanol y project ailddatblygu mwyaf yn ei hanes ar ôl derbyn arian gan Lywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri ac eraill.

Dywedodd David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru: "Dylai ein gwirfoddolwyr, plant ysgol a phobl leol Trelái a Chaerau fod yn falch iawn o Bryn Eryr.

"Iddyn nhw a'n tîm adeiladu ni y mae'r diolch am allu agor yr atyniad newydd i'r cyhoedd yr haf hwn.

"Mae ail-greu'r adeilad hynod hwn o Ynys Môn, gan ddefnyddio tystiolaeth archeolegol, yn gam arwyddocaol yn y broses o ailddatblygu Sain Ffagan.

"Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn mynegi gwerth y project ailddatblygu i bobl Cymru a thu hwnt. Gyda Bryn Eryr nawr ar agor, mae gan ein hymwelwyr le i glywed hen straeon, dysgu sgiliau traddodiadol a rhannu profiadau gyda ffrindiau a theulu."