Pryder am astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Rhydychen
- Cyhoeddwyd
Mae penderfyniad i adfer y Gadair Geltaidd ym Mhrifysgol Rhydychen wedi'i ohirio gydag amheuon y bydd astudiaethau Celtaidd yno'n dod i ben.
Mae'r adran Ieithoedd Modern yn wynebu gorfod casglu tua £3m er mwyn achub dyfodol rhai cyrsiau yno.
Dywedodd llefarydd ar ran yr adran wrth BBC Cymru Fyw: "Dy'n ni heb wneud penderfyniad terfynol eto [am ddyfodol y cwrs]. Mae wedi'i ohirio.
"Cawsom ni wybod ychydig flynyddoedd yn ôl na fydden ni'n derbyn arian i barhau gyda'r swydd.
"Ry'n ni wedi bod yn ceisio codi arian ond does dim byd wedi bod yn digwydd yn ddiweddar."
Yn ôl y brifysgol, bydd penderfyniad terfynol ar ddyfodol y gadair yn cael ei wneud cyn diwedd y flwyddyn.
'Cwbl ymrwymedig'
Yn 2014 dywedodd llefarydd bod y brifysgol yn "gwbl ymrwymedig i adfer y Gadair Geltaidd yng Ngholeg Iesu gan fod pwysigrwydd y pwnc yn cael ei gydnabod o fewn a thu hwnt i'r brifysgol".
Ychwanegodd y dylai'r gadair fod yn ei lle erbyn y flwyddyn academaidd 2017/18.
Mae Cymry wedi gwneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg ym Mhrifysgol Rhydychen ers canrif a hanner.
Ond daeth yr ariannu gan y brifysgol i ben yn dilyn ymddeoliad yr Athro Thomas Charles-Edwards ym mis Medi 2011.
'Anodd ei gynnal'
Yn y cyfamser, mae darlithydd yn y brifysgol yn addysgu Astudiaethau Celtaidd, sef Dr Alderik H Blom, ac mae'r ymdrechion i godi arian yn parhau - ond heb fawr o lwyddiant.
Mae'r adran wedi rhoi stop ar dderbyn mwy o fyfyrwyr, ac mae'n edrych yn gynyddol debygol mai'r criw presennol o fyfyrwyr fydd y rhai olaf i gael eu haddysgu am lenyddiaeth Celtaidd yno.
Dywedodd yr academydd Dr Juliette Wood, cyn-fyfyrwraig yn yr adran ac sydd bellach yn ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, y byddai hi'n "siom enfawr" pe bai'r cyrsiau Celtaidd yn diflannu.
"Nid dim ond yn Rhydychen y mae hyn yn digwydd," meddai Dr Wood.
"Mae'r math yma o ymchwil yn mynd yn fwyfwy anodd ei gynnal mewn academia cyfoes gan fod y farchnad swyddi yn newid, diffyg arian ac ati.
"Yn anffodus, y cyrsiau lleia' hynny sy'n gorfod dod i ben."
'Siom enfawr'
Ychwanegodd: "Byddwn i'n dadlau fod y rhain mor bwysig na ddylid eu cau nhw, ac nad arian yw popeth, ond mae'n rhaid i benderfyniadau anodd gael eu gwneud yn anffodus.
"Dwi'n siŵr y bydd y brifysgol yn edrych ar bob opsiwn. Mae'n siom enfawr na fydd yr arian yn cael ei roi - dydw i ddim yn obeithiol iawn am ddyfodol y cyrsiau."
Y Cymro John Rhŷs oedd Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen yn 1877.
Ymhlith y Cymry Cymraeg sydd wedi astudio yno o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg y mae T H Parry Williams, Bedwyr Lewis Jones, R Geraint Gruffydd, Derec Llwyd Morgan, Medwin Hughes, Kathryn Jenkins, Huw Meirion Edwards ac Angharad Price.