Llenwi Cadair Geltaidd Rhydychen yn 2017?
- Cyhoeddwyd
Dylai fod modd adfer y Gadair Geltaidd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, a fu'n wag ers 2011, erbyn blwyddyn academaidd 2017/18, meddai Prifysgol Rhydychen.
Ond mae Athro Celteg Prifysgol Caergrawnt wedi mynegi pryder oherwydd "yr hiraf mae'n cymryd i adfer y Gadair" yn Rhydychen, "y mwyaf o niwed sy'n cael ei wneud i'r pwnc ar lefel ryngwladol".
Mae ymdrechion yn parhau i godi mwy na £3miliwn i fedru cynnal y Gadair yn barhaol - amcangyfrifir y byddai hynny yn sicrhau incwm o tua £100,000 y flwyddyn i dalu'r holl gostau cysylltiedig.
Ers canrif a hanner mae Cymry wedi gwneud gwaith ymchwil ôl-raddedig ar y Gymraeg a'i llenyddiaeth yn Rhydychen o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg.
Ond pan ymddeolodd yr Athro Thomas Charles-Edwards ym mis Medi 2011 daeth yr ariannu oddi wrth y brifysgol i ben.
'Iechyd y pwnc'
Dywedodd Paul Russell, Athro Celteg Prifysgol Caergrawnt, ei fod yn "hynod o bwysig bod y Gadair yn cael ei hadfer, o gofio adnoddau'r llyfrgelloedd, y llawysgrifau ac ati, yn Rhydychen".
Ychwanegodd, "Byddai'n drueni pe byddai Rhydychen yn dod i arfer â'r status quo o fod heb Gadair Geltaidd.
"Rydw i'n pryderu oherwydd yr hiraf mae'n cymryd i adfer y Gadair, y mwyaf o niwed sy'n cael ei wneud i'r pwnc ar lefel ryngwladol.
"Mae'n bwysig i iechyd y pwnc ei fod yn cael ei astudio a'i fod yn ffynnu y tu allan i wledydd Celtaidd, mewn lleoedd fel Rhydychen, Caergrawnt a Pharis".
'Cwbl ymrwymedig'
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Rhydychen, "Rydym yn gwbl ymrwymedig i adfer y Gadair Geltaidd yng Ngholeg Iesu, gan fod pwysigrwydd y pwnc yn cael ei gydnabod o fewn a thu hwnt i'r brifysgol.
"Mae cefnogaeth ar gyfer y gadair wedi ei mynegi o ystod eang o bobl yng Nghymru a ledled y byd, ac fe ddylai'r Gadair fod yn ei lle erbyn y flwyddyn academaidd 2017/18".
Yn y cyfamser, mae darlithydd yn y brifysgol yn addysgu Astudiaethau Celtaidd, sef Dr Alderik H. Blom, ac mae'r ymdrechion i godi arian yn parhau.
Yn 1877 y daeth John Rhŷs yn Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen, un a gyflawnodd waith arloesol ar y Gymraeg a'r Fanaweg ac arysgrifau Celtaidd o gyfandir Ewrop.
Bu yn y swydd tan 1915 a'r Albanwr John Fraser oedd yn y Gadair rhwng 1921 ac 1945.
Penodwyd brodor o Fethesda, Idris Foster, i'r Gadair yn 1947 a daliodd y Gadair hyd ei ymddeoliad yn 1978. Ei brif faes ymchwil oedd chwedl Culhwch ac Olwen.
Symudodd D Ellis Evans, brodor o Lanfynydd, Sir Gaerfyrddin, o fod yn Athro'r Gymraeg yng Ngholeg y Brifysgol Abertawe i'r Gadair Geltaidd yng Ngholeg Iesu yn 1978 ac roedd yno nes iddo ymddeol yn 1996. Bu farw y llynedd yn 83 oed.
Yr Athro Thomas Charles-Edwards, awdur y gyfrol 'Early Irish and Welsh Kinship', oedd yno ers hynny tan ei ymddeoliad ym mis Medi 2011.
Ymhlith y Cymry Cymraeg sydd wedi astudio yn Rhydychen o dan gyfarwyddyd yr Athro Celteg y mae T H Parry Williams, Bedwyr Lewis Jones, R Geraint Gruffydd, Derec Llwyd Morgan, Medwin Hughes, Kathryn Jenkins, Huw Meirion Edwards ac Angharad Price.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2013
- Cyhoeddwyd14 Mawrth 2012