Yr Orsedd: Ymateb yr Eisteddfod

  • Cyhoeddwyd
gorsedd

Yn dilyn sylwadau gan yr Archdderwydd Geraint Llifon mae'r cyfryngau cymdeithasol wedi bod yn ferw o sylwadau am iddo ddweud na fyddai tîm pêl-droed Cymru i gyd yn cael bod yn aelodau o'r Orsedd.

Yn ystod y trafodaethau, mae nifer wedi methu gwahaniaethu rhwng yr Orsedd a'r Eisteddfod ei hun, a nos Wener fe ddaeth datganiad gan yr Eisteddfod i bwysleisio'r gwahaniaeth yna.

Mewn sgwrs gyda Cymru Fyw, dywedodd yr Archdderwydd: "Tydi'r Gymraeg ddim i ddod yn eilbeth i bob peth arall. Mae'r Gymraeg reit ar y top, y pwynt cyntaf.

"Ac os nad ydyn nhw'n gallu'r Gymraeg dydw i ddim yn gweld sut y mae croesawu nhw i mewn [i'r Orsedd], oherwydd y Gymraeg ydi'r arf fwyaf, cryfa' sydd ganddo ni fel cenedl, a hebddi 'does ganddo ni ddim byd."

Mae'r Eisteddfod fodd bynnag yn mynd ati i amlinellu'r broses o enwebu unigolion ar gyfer eu hanrhydeddu.

Y flwyddyn nesaf?

Dyma ddywed datganiad yr Eisteddfod yn llawn:

"Mae galw wedi bod ar i'r Orsedd anrhydeddu tîm Cymru yn yr Eisteddfod eleni, yn dilyn eu llwyddiant yng Ngemau'r Euros yr haf yma. Rydym ni'n falch iawn o lwyddiant y tîm, ac fe'u gwahoddwyd i ddod atom i'r Eisteddfod yn Sir Fynwy a'r Cyffiniau.

"Mae Gorsedd y Beirdd yn gorff sydd ar wahân i'r Eisteddfod Genedlaethol, er bod cysylltiad agos rhwng y ddau sefydliad. Nid yw'r Eisteddfod yn rhan o'r broses o enwebu ac anrhydeddu unigolion, nac yn rhan o unrhyw benderfyniad a wneir gan Fwrdd yr Orsedd.

"Fel pawb a phopeth arall, mae gan yr Orsedd ei rheolau, a dim ond aelodau'r Orsedd sydd â'r hawl i enwebu/eilio unigolion ar gyfer eu hanrhydeddu ac wrth gwrs, yn unol â'r rheolau, mae'n ofynnol bod y person a enwebir yn siarad Cymraeg.

"Caeodd y broses ar gyfer eleni ddiwedd Chwefror, ac yn unol â rheolau'r Orsedd, does dim modd ail-agor yr enwebiadau unwaith mae'r dyddiad cau wedi pasio.

"Nid oes gan swyddogion Yr Orsedd unrhyw hawl i gyflwyno anrhydeddau y tu allan i'r system honno, gan mai Panel Yr Urddau sy'n gorfod penderfynu pa geisiadau sy'n gymwys.

"Nid oedd unrhyw un o dîm pêl droed Cymru wedi'u henwebu ar gyfer yr Orsedd eleni, a ni chafodd unrhyw aelod o'r tîm ei wrthod.

"Bydd cyfle dros y misoedd nesaf i aelodau'r Orsedd ystyried a mynd ati i enwebu unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad mawr i'r genedl, naill ai dros gyfnod o flynyddoedd neu yn ddiweddar. Cawn weld pwy fydd yn cael ei enwebu bryd hynny a'u hanrhydeddu yn Eisteddfod Ynys Môn y flwyddyn nesaf."