Adolygu rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i'r dyfodol

  • Cyhoeddwyd
Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bydd adolygiad o rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn dechrau'r haf hwn, gan ystyried datblygiad y coleg at y dyfodol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd grŵp newydd yn adolygu rôl y coleg, bum mlynedd ers ei sefydlu.

Bydd casgliadau'r adolygiad yn cael eu hystyried wrth wneud penderfyniadau am bolisïau a chyllid yn y dyfodol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Addysg, Kirsty Williams y byddai'r coleg yn chwarae rhan bwysig mewn galluogi i bobl ifanc ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol.

'Cynnal a datblygu iaith'

Cafodd y coleg ei sefydlu yn 2011 gyda'r bwriad o gynyddu cyfleoedd i fyfyrwyr astudio eu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Erbyn hyn, mae'r coleg yn darparu cefnogaeth annibynnol i sefydliadau addysg uwch drwy Gymru.

Bydd y grŵp gorchwyl yn dechrau drwy adolygu gweithgareddau'r coleg, cyn cynnig argymhellion ar y ffordd ymlaen, fydd yn siapio polisïau a chyllidebau'r dyfodol.

Ymysg ystyriaethau'r adolygiad fydd a ddylai'r coleg ymestyn i'r sector addysg ôl-16, beth yw opsiynau cyllido'r coleg yn y dyfodol ac a yw model y coleg yn addas i'w bwrpas wedi 2017.

Dywedodd Kirsty Williams bod y coleg yn "chwarae rhan bwysig yn y gwaith o sicrhau y gall ein pobl ifanc barhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar adael yr ysgol a chynnal a datblygu eu sgiliau iaith" ar gyfer y dyfodol.

"Bum mlynedd ar ôl sefydlu'r Coleg, nawr yw'r amser i ystyried rôl y sefydliad at y dyfodol. Dyna pam rwy'n cyhoeddi y caiff y grŵp gorchwyl a gorffen hwn ei sefydlu i adolygu gweithgareddau'r Coleg a gwneud argymhellion ar y ffordd ymlaen.

"Byddaf yn penodi Cadeirydd yn y misoedd i ddod ac yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid allweddol sydd â phrofiad ac arbenigedd ym maes addysg uwch, addysg bellach a dysgu cyfrwng Cymraeg."

'Cyffrous a phwysig'

Wrth ymateb, dywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg y gallai ehangu cyfrifoldeb y Coleg Cymraeg "arwain at ddatblygiadau cyffrous a phwysig iawn".

Ychwanegodd Miriam Williams o'r Gymdeithas: "Yn ogystal â chynyddu'r ddarpariaeth Gymraeg o fewn y sector addysg uwch gallai olygu ymestyn egwyddor addysg gyfun i addysg ôl-16 ac ôl-18.

"Wrth gwrs, er mwyn gallu gwneud hyn yn iawn byddai angen adnoddau digonol a buddsoddiad ariannol ond y ffordd i sicrhau dyfodol llewyrchus i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yw trwy roi swyddogaeth heriol, newydd iddo."

Bydd y grŵp yn dechrau gweithio yn yr haf ac yn ceisio gweithredu argymhellion o 2017 ymlaen.