Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Hannah Roberts o Frynmawr

  • Cyhoeddwyd
Hannah Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Hannah Roberts

Dysgwr y Flwyddyn eleni yw Hannah Roberts o Frynmawr.

Fe'i hanrhydeddwyd mewn seremoni arbennig nos Fercher, yn dilyn cystadleuaeth o safon arbennig o uchel, meddai'r trefnwyr.

Cymaint oedd canmoliaeth y beirniaid, Elwyn Hughes, Sandra De Pol ac Angharad Mair, fel bod pump wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni am yr eildro.

Mae Hannah yn gweithio i Fenter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy fel Swyddog Maes sy'n hybu a hyrwyddo'r Gymraeg ym Mlaenau Gwent a Gogledd Sir Fynwy.

Mae'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc, teuluoedd a'r gymuned ac mae wrth ei bodd yn y swydd sy'n rhoi'r cyfle iddi hi ehangu'r defnydd o'r Gymraeg yn yr ardaloedd hyn gan gynnwys ei chartref.

Enwau'r rheiny ddaeth i'r brig eleni yn y gystadleuaeth oedd Rwth Evans o Gaerdydd, Rachel Jones o Lanfair-ym-muallt, Naomi O'Brien o Fedlinog, Sarah Reynolds o Gaerfyrddin a Hannah Roberts o Frynmawr.

Prifysgol

Daeth Hannah Roberts at y Gymraeg drwy ddamwain pan oedd adref un haf o'r brifysgol ac yn chwilio am "rywbeth" i'w wneud.

Mynychodd gwrs blasu gyda Chymraeg i Oedolion ac fe gafodd ei bachu gan yr iaith.

"Dechreuais i ddysgu Cymraeg ar ddamwain," meddai.

"Es i i'r brifysgol i astudio daearyddiaeth wedyn o'n i'n casáu e'n llwyr so penderfynais i newid i'r cwrs Cymraeg i ddechreuwyr pur a dyma ni.

"Yn ystod gwyliau'r haf cynt es i ar gwrs gyda Cymraeg i Oedolion, cwrs blasu, ac oeddwn i'n meddwl 'dwi wir yn mwynhau hyn'. Chwarae teg, roeddwn i'n arfer mwynhau dysgu Cymraeg yn yr ysgol hefyd.

"So o'n i'n meddwl 'mae penderfyniad mawr gen i nawr i'w wneud. Ydw i'n mynd i barhau gyda daearyddiaeth, neu dylwn i newid ac wedyn falle bydd mwy o gyfleoedd gen i? Dwi ddim yn siŵr.'

"Ond yn y pen draw nes i'r penderfyniad a dwi ddim wedi edrych yn ôl."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod
Disgrifiad o’r llun,

Y pum cystadleuydd ddaeth i'r brig

'Taith enfawr'

Ychwanegodd: "Mae hi wedi bod yn daith enfawr. Dyw e ddim wedi bod yn broses syml chwaith.

"Roedd rhaid i fi weithio'n galed i gyrraedd y pwynt yma, yn enwedig i gyrraedd y pwynt lle dwi'n gallu gweithio yn y Gymraeg."

Aeth nôl i Brifysgol Aberystwyth a phenderfynu newid ei chwrs o ddaearyddiaeth i gwrs ar gyfer dechreuwyr pur yn yr Adran Gymraeg.

Bu hi'n byw ym Mhantycelyn ac fe gafodd brofiad da yno, ond bu'n rhaid iddi hi frwydro a dyfalbarhau i gael pawb i siarad â hi yn Gymraeg.

Felly dechreuodd gymdeithas ar gyfer dysgwyr yn y brifysgol er mwyn sefydlu amgylchedd lle gallai myfyrwyr ddefnyddio ac ymarfer eu Cymraeg ac er mwyn hybu a hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr gymdeithasu yn Gymraeg.

Derbyniodd Hannah dlws arbennig a £300, yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent, ynghyd â thanysgrifiad blwyddyn i gylchgrawn Golwg.

Y pedwar arall yn y rownd derfynol oedd Rwth Evans, Caerdydd, Rachel Jones, Llanfair-ym-muallt, Naomi O'Brien, Bedlinog a Sarah Reynolds, Caerfyrddin.

Derbyniodd y pedwar dlysau dlysau a £100 yr un, hefyd yn rhoddedig gan Ganolfan Cymraeg i Oedolion Gwent.