Caethwasiaeth 'wedi cynyddu 394% yng Nghymru'
- Cyhoeddwyd
Mae nifer y bobl sydd yn dioddef o gaethwasiaeth modern wedi cynyddu 394% mewn tair blynedd, yn ôl adroddiad gan Lywodraeth Cymru.
Llynedd roedd 134 o bobl yng Nghymru yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr neu oroeswyr posib, o'i gymharu â dim ond 34 yn 2012.
Dywedodd yr adroddiad y gallai gwelliannau yn y broses o ddod o hyd i ddioddefwyr esbonio'r cynnydd.
Mae elusen Salvation Army wedi galw ar fwy o ymwybyddiaeth o'r broblem.
Fe all caethwasiaeth fodern gynnwys gorfodi rhywun i weithio, caethwasanaeth domestig, ecsbloetio plant, a phuteindra.
Daeth y broblem i sylw ehangach yn 2014 pan garcharwyd David Daniel Doran am orfodi dyn i weithio'n ddi-dâl ar ei fferm ger Casnewydd.
'Codi ymwybyddiaeth'
Dywedodd yr adroddiad bod Cymru bellach yn "arwain y ffordd" yn yr ymdrechion i daclo caethwasiaeth modern, a bod llawer o waith wedi cael ei wneud ers 2014 i gyflwyno strategaethau hyfforddiant yn y maes.
Ond y gred yw y gallai nifer y dioddefwyr fod llawer yn uwch, gyda phobl un ai'n rhy ofnus i dynnu sylw'r awdurdodau neu ddim yn sylwi eu bod nhw'n cael eu hecsploetio.
Salvation Army sydd yn rhedeg canolfannau llochesu diogel ar ran y llywodraeth ar gyfer oedolion sydd wedi cael eu masnachu, ac mae'r galw am eu gwasanaethau nhw wedi cynyddu.
Ond yn ôl cyfarwyddwr gwrth-fasnachu a chaethwasiaeth yr elusen, Anne Read, fe allai hynny fod yn rhannol oherwydd camau'r llywodraeth wrth godi ymwybyddiaeth o'r mater.
"Mae'n ymddangos fel bod hyn wedi arwain at adnabod dioddefwyr posib yn well, yn ogystal â dull mwy rhagweithiol wrth chwilio ac achub pobl sydd yn dioddef o gaethwasiaeth modern, ac mae hyn i'w groesawu," meddai Ms Read.
"Po fwyaf o ymwybyddiaeth sydd o'r mater yma, yr anoddaf fydd hi i fasnachwyr pobl barhau i ddelio mewn modd mor ffiaidd."