Bae Colwyn: Ail ran cynllun y promenâd yn dechrau
- Cyhoeddwyd
Bydd ail ran y gwaith ar gynllun gweddnewid promenâd Bae Colwyn yn dechrau ddydd Gwener.
Mae'r cynllun £4.2m yn cynnwys lledu a chodi rhan o'r promenâd presennol, gwella parcio yn yr ardal ynghyd â gwaith tirlunio a gwella adnoddau'r prom.
Y nod yw cadw'r dyluniad a deunyddiau yn gyson gyda rhan gynta'r gwaith a gwblhawyd yn 2014 rhwng y pier a Phorth Eirias.
Fodd bynnag, mae'r gwaith yn golygu cau rhannau o ffyrdd yn y dref, ac mae rhybudd y bydd anghyfleustra i yrwyr yn y cyffiniau.
Bydd y ffordd rhwng y pier a'r gyffordd gyda Ffordd Marine ar gau o 06:00 ymlaen, ac fe fydd traffig yn cael ei ddargyfeirio.
Ni fydd mynediad i rannau o'r traeth tra bod y gwaith yn digwydd chwaith.
Gwaith 'allweddol'
Dywedodd y Cynghorydd Dave Cowans, aelod o gabinet Cyngor Sir Conwy gyda chyfrifoldeb am briffyrdd, yr amgylchedd a chynaliadwyedd: "Rwy'n falch y bydd y gwaith ar y rhan nesaf o drawsnewid y promenâd ym Mae Colwyn ar y gweill yn fuan.
"Mae'r Prosiect Glan y Môr yn rhan allweddol o raglen Adfywio Bywyd y Bae ac mae'r dref eisoes yn gweld budd y gwaith a gynhaliwyd yn 2014.
"Rydym yn sylweddoli y bydd cau'r rhan hon o'r promenâd yn achosi tarfu, ond rwy'n annog pawb i feddwl am y manteision tymor hir y bydd y prosiect yn eu cyflwyno i Fae Colwyn, a hoffwn ddiolch i bawb ymlaen llaw am eu hamynedd."
Roedd Cyngor Sir Conwy'n cydnabod bod y gwaith yn digwydd ar adeg brysur o'r flwyddyn, ond yn dweud ei bod yn hanfodol ei fod yn digwydd heb oedi er mwyn cydymffurfio gyda threfniadau ariannu, ac i leihau'r effaith ar dymor yr haf 2017.