Symud gweddillion hofrennydd o gopa mynydd yn Eryri

  • Cyhoeddwyd
HofrennyddFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis

Mae'r gwaith o symud gweddillion hofrennydd aeth ar dân ar ôl gorfod glanio'n sydyn ar gopa mynydd yn Eryri., wedi cychwyn.

Mae hofrennydd Chinook o safle awyrlu Odiham yn Hampshire, wedi ei anfon i Eryri er mwyn cludo'r gweddillion oddi ar y mynydd.

Roedd yr hofrennydd yn rhan o Uned Hyfforddi Chwilio ag Achub yr Awyrlu sydd wedi ei lleoli yng ngwersyll Y Fali ar Ynys Môn.

Daeth yr hofrennydd i lawr ar gopa'r Aran ger Yr Wyddfa, brynhawn Mawrth, 9 Awst, ac fe gafodd gwasanaethau brys eu galw i'r digwyddiad.

Yn ôl y Weinyddiaeth Amddiffyn, hofrennydd hyfforddi Griffin sy'n cael ei defnyddio gan y Weinyddiaeth ddaeth i lawr.

Roedd pump o bobl ar ei bwrdd ar y pryd - pedwar aelod milwrol ac un aelod o'r cyhoedd - gydag un person arall ar y mynydd.

Fe laniodd yr hofrennydd fel mesur diogelwch ar ôl datblygu problemau technegol, cyn iddi fynd ar dân ac ni chafodd neb eu hanafu.

Mae ymchwiliad wedi cychwyn i ddarganfod y rheswm pam y bu'n rhaid i'r hofrennydd lanio ar frys.

Ffynhonnell y llun, Ted McGowan
Ffynhonnell y llun, Philippa Napper