Taith i'r Gymru Fydd
- Cyhoeddwyd
Bydd haf 2016 yn aros yn y cof am amser hir iawn, yn enwedig i'r Cymry. O lwyddiant y tîm pêl-droed yn Euro 2016, i ganlyniad refferendwm Ewrop, mae wedi bod yn gyfnod o newid mawr.
Yr awdur a'r academydd Dr Simon Brooks sy'n rhoi ei farn ar beth all hyn oll olygu i hunaniaeth Cymru a dyfodol y genedl:
Y Gymraeg yn eithriad?
Hwyrach na ddylem weld gormod mewn gêm bêl-droed. Ond y fath eironi! Gorchestion mawr gan bêl-droedwyr Cymru yn Ewrop wedi i Gymru bleidleisio dros adael Ewrop. Bues i'n canu'r gân, 'Please don't take me home', ar strydoedd Bordeaux yr un fath â phawb, ond wedi Brexit, magodd y gân ystyr wleidyddol newydd.
Sioc oedd y cwbl, a'r sioc gymaint yn fwy am mai pobl o darddiad Ewropeaidd yw'r Cymry. Yn wahanol i'r llwythau Eingl-Sacsonaidd, roedd hynafiaid y Cymry yn byw ym Mhrydain yn ystod dyddiau'r Ymerodraeth Rufeinig. Ar un olwg, pobl Rufeinig ydym ni, fel y tystia dylanwad y Lladin ar ein hiaith, megis mewn geiriau fel 'pont', 'ffenestr' a 'braich'.
Nid ar chwarae bach y dywedodd y meddyliwr Raymond Williams ei fod yn 'Gymro Ewropeaidd', a neges i'r un perwyl oedd gan Saunders Lewis.
Tipyn o greisis yw Brexit o safbwynt yr hunaniaeth Gymreig felly. Hwyrach y bydd yn arwain at Gymru lawer mwy Prydeinig, a llai Cymraeg. Yn hytrach na bod y Gymraeg yn un iaith ymysg llawer mewn Undeb Ewropeaidd amlieithog, bydd nawr yn eithriad - oddity - mewn Prydain uniaith Saesneg.
Os yw pobl Prydain yn dechrau meddwl am Ewrop fel rhywle sydd 'ar wahân' i Brydain - gelyn, hyd yn oed - gall fod ymchwydd sydyn mewn Prydeindod.
'Wangland'
Mae'r hanesydd Linda Colley yn dangos proses o'r fath yn ei llyfr, 'Britons: Forging the Nation 1707-1837', sy'n sôn am dwf Prydeindod wedi'r Ddeddf Uno rhwng Lloegr a'r Alban yn 1707. Meddyliodd llawer am Ewrop fel bygythiad oherwydd ei Chatholigiaeth, ac roedd hyn yn fodd i greu undod Prydeinig rhwng Saeson ac Albanwyr nad oeddynt, mewn gwirionedd, mor hoff â hynny o'i gilydd.
Er gwaetha'r darogan y bydd yr Alban yn gadael y Deyrnas Gyfunol wedi Brexit, os na fydd hyn yn digwydd yn ystod y flwyddyn neu ddwy nesaf mae'n ddigon posib na fydd yn digwydd o gwbl.
Ond hyd yn oed os yw'r Alban yn mynd, gan dolcio Prydeindod, go brin fod hyn yn newyddion o lawenydd mawr, diamwys i genedlaetholwyr Cymreig.
Daw Cymru a Lloegr yn rhan o wladwriaeth newydd, 'Wangland' (cyfuniad o 'Wales' ac 'England'), ac yn anochel bydd y pwysau Seisnigo yng Nghymru'n cynyddu.
Fyddwn i ddim yn rhoi gormod o goel ar yr enw hwnnw, 'Wangland', chwaith. Am dair canrif rhwng gwrthryfel Glyndwr a 1707, roedd y Cymry yn aelodau bodlon o wladwriaeth Eingl-Gymreig. Lloegr oedd ei henw gan bawb.
Islwyn Ffowc Elis
Wrth gwrs, does dim rhaid i Wangland fod. Yn ei glasur o'r 1950au, 'Wythnos yng Nghymru Fydd', mae Islwyn Ffowc Elis yn anfon Cymro mewn peiriant amser er mwyn profi dwy fersiwn bosib o'r dyfodol.
Yn y dyfodol cyntaf, mae Cymru'n wlad ffyniannus, Gymraeg ei hiaith sydd wedi ennill ymreolaeth. Yn yr ail, mae hi'n rhan o wladwriaeth Seisnig, filwrol a neo-ffasgaidd, ac mae'r Gymraeg wedi trengi ar wefusau ei siaradwraig olaf - hen wraig yn y Bala.
Neges Islwyn Ffowc Elis yw fod modd dewis rhwng y ddwy weledigaeth hyn. Mae gan y dyfodol sawl wyneb posib, a gall ymdrechion gwleidyddol heddiw esgor ar ganlyniadau gwleidyddol yfory.
Mae modd cael Cymru annibynnol (Cymru Ewropeaidd, hyd yn oed), ond bydd yn rhaid ymgyrchu drosti. Neges o obaith yw un 'Wythnos yng Nghymru Fydd' yn y bôn. Gall dynion a merched o gig a gwaed ymyrryd yn llif hanes er mwyn creu dyfodol o'u dewis eu hunain.