Ysgol Gymraeg arloesol yn 60 oed
- Cyhoeddwyd
Fis Medi 1956, agorodd yr ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf, sef Ysgol Glan Clwyd yn Y Rhyl.
Roedd 'na wrthwynebiad chwyrn i'r ysgol a bu'n rhaid i Gyfarwyddwr Addysg Sir y Fflint, Dr Haydn Williams, frwydro'n galed i argyhoeddi nifer fawr o bobl bod angen ysgol uwchradd Gymraeg yn yr ardal ac y byddai'n llwyddo.
Symudodd yr ysgol i Lanelwy yn 1969 ond 60 o flynyddoedd yn ddiweddarach, mae Ysgol Glan Clwyd yn dal i ddarparu addysg uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg ac ers 1956 mae dros ddwsin o ysgolion eraill ar hyd ar lled Cymru yn darparu addysg uwchradd yn unig drwy'r Gymraeg.
Mae nifer o enwogion wedi bod trwy ddrysau'r ysgol gan gynnwys y llenorion Manon Rhys ac Aled Islwyn, y gantores Caryl Parry Jones a'r cogydd Bryn Williams.
Cafodd Cymru Fyw sgwrs â rhai o'i chyn-ddisgyblion am yr effaith gafodd yr ysgol ar eu bywydau:
Blwyddyn newydd, arweinydd newydd
Bethan Cartwright yw pennaeth newydd Ysgol Glan Clwyd. Mae hi hefyd yn gyn-ddisgybl yn yr ysgol.
"Fy nghyfnod fel disgybl yno oedd dyddiau hapusa' mywyd i, a does 'na ddim llawer o newid wedi bod - disgyblion newydd, athrawon newydd, ond llawer wedi aros yr un peth. Roedd gen i lawer o ffrindiau, a hynny o bob rhan o'r dalgylch - o'n i'n 'nabod plant o ardal Llansannan a Llannefydd, ond wedyn yn dod i 'nabod plant y glannau a chlywed acenion gwahanol.
"Dyna sydd yn gwneud yr ysgol yn un arbennig - mae yna amrywiaeth, sy'n beth braf. Rydyn ni'n ymfalchïo yn y gwahaniaethau sydd rhyngddo ni ond hefyd yn y ffaith ein bod ni i gyd yn ddisgyblion yn yr un ysgol.
Yr her sy'n wynebu pennaeth
"Doedd hi efallai ddim yn fwriad benodol i ddychwelyd i'm bro genedigol, ond mae hi'n braf bod yn ôl. Mae'r ysgol yn golygu lot i mi - mae o'n rhan fawr o mywyd i. Dwi am wneud fy ngorau glas i'r ysgol - alla i 'mond gobeithio fod hynny'n ddigon.
"Mae'r heriau dal yr un fath â phan ro'n i'n ddisgybl - a'r prif un, wrth gwrs, yw brwydro dros yr iaith. Mae'n disgyblion ni'n andros o falch o'r iaith ond mae yna dal dipyn o waith i godi'r hyder i'w defnyddio hi. Ond ti methu ildio.
"Mae llai na chwarter y disgyblion yn dod o deuluoedd gyfan gwbl Gymraeg, felly'n amlwg, mae hyn yn her ynddo'i hun. Yn yr ysgol, mae ganddon ni nifer o ymgyrchoedd i geisio annog y defnydd o'r Gymraeg.
"Mae'n rhaid i'r ffocws fod ar addysgu - y berthynas rhwng yr athro a'r disgybl, sydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i lwyddiant plentyn a llwyddiant yr ysgol. Dwi am roi llawer o fuddsoddiad i addysgu'r addysg orau, ac i gefnogi athrawon i fod yn rhai rhagorol, a bod y disgyblion yn ddysgwyr effeithiol.
"O ran y dathliadau pen-blwydd, does 'na ddim byd penodol wedi cael ei drefnu eto, ond mae gen i syniadau. Efallai cyfuno agoriad yr adeilad newydd fis Ionawr gyda digwyddiad, er mwyn dangos ble rydyn ni wedi cyrraedd, o lle oedden ni pan ddechreuodd yr ysgol."
Y cyntaf o'r teulu i dderbyn addysg Gymraeg
Mae Guto Lloyd-Davies yn byw yn Ninbych ac yn rhedeg Gwasg Helygain yn Y Rhyl:
"Mae Mam o Fanceinion a Dad yn Gymro di-Gymraeg, a treuliodd fy chwiorydd hŷn flynyddoedd cyntaf eu bywydau yn Runcorn, cyn i'r teulu symud yma. Felly fi oedd y cyntaf i gael ei holl addysg gyfan-gwbl drwy'r Gymraeg, er mai Saesneg yw fy iaith gyntaf i.
"Es i ddim i'r brifysgol. Dwi'n cofio edrych drwy bamffledi prifysgolion, a dechrau gwneud syms a sylweddoli mor ddrud y byddai o, a phenderfynu well i mi aros yma.
"Dwi'n cofio ei fod o'n benderfyniad reit gadarn, a phennaeth y chweched, Austin Savage, yn ceisio fy narbwyllo, ond o'n i methu gweld y manteision. Yn syth ar ôl Lefel A, nes i ymuno â busnes y teulu, a dwi dal yma heddiw, dros ugain mlynedd yn ddiweddarach. Dwi'n falch mod i wedi gwneud beth wnes i, er mai fi oedd yr unig un o'r flwyddyn honno ddewisodd beidio mynd i'r brifysgol - fel rhyw rebel!
"Roedd fy ngwraig i, Elin, yn yr un flwyddyn - aeth hi i Ysgol Dewi Sant ac Ysgol Glan Clwyd hefyd - ond gwnaeth hi'n wych yn ei Lefel A a mynd i astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Wedyn fy nghyfarfod i eto yn ein hugeiniau hwyr, a fi'n ei llusgo hi'n ôl i Ddinbych i fyw - a 'da ni wrth ein boddau yma.
"Dwi'n falch iawn o'r addysg ges i'n Glan Clwyd. 'Sa mywyd i wedi gallu bod yn wahanol iawn, yn enwedig wedyn ers ail-gwrdd ag Elin, gan mai Cymraeg bellach yw iaith gyntaf y cartref."
Merch ei milltir sgwâr
Mae Mair Dowell yn nyrs, a dewisodd hi hefyd i aros yn ei bro:
"Mi ges i fy magu yn Nhremeirchion. Roedd Mam a Dad yn Gymry cadarn, ac roedd Dad wedi bod yn brwydro, gyda Dr Haydn Williams, dros godi'r ysgol yn y lle cynta'. Yn ysgol Tremeirchion roedd fy addysg yn gyfan gwbl drwy'r Gymraeg tan o'n i'n 7 oed, wedyn roedd popeth drwy'r Saesneg, am ryw reswm. Ond doedd yna ddim cwestiwn o gwbl y byddwn i'n mynd i Glan Clwyd.
"Es i yno yn 1959, felly dim ond rhyw 300 o disgyblion oedd yn yr holl ysgol. Roedd yr athrawon yn 'nabod yr holl ddisgyblion, a phawb yn 'nabod ei gilydd yn dda - roedd hi'n ysgol gartrefol iawn. Roedden ni dal yn Y Rhyl bryd hynny, a lle yn mynd yn brin wrth i'r ysgol dyfu - un flwyddyn roedd ein hystafell ddosbarth ni yn y capel!
"Fy mhenaethiaid oedd Mr Haydn Thomas ac wedyn Mr Desmond Healy - roedd Mr Healy ychydig mwy agos atoch chi na Mr Thomas, i fod yn onest. Roedd llawer o'r athrawon yn annwyl iawn - ac wrth gwrs, ro'n i wrth fy modd yn astudio cerddoriaeth gyda'r arbennig Mr Gilmor Griffiths.
"Es i nyrsio ar ôl Lefel O a gweithio yn Ysbyty'r Alexandra yn Y Rhyl - ac weithiau, os oedd gen i brynhawn rhydd, o'n i'n mynd yn ôl i'r ysgol i weld ffrindiau! Dwi wastad wedi gweithio yn yr ardal - dwi dal i weithio yn Ysbyty Glan Clwyd heddiw. Ac mae'r Gymraeg yn ddefnyddiol iawn yn fy swydd wrth gyfathrebu â chleifion.
"Dwi wir wedi mwynhau fy ngwaith dros y blynyddoedd, ac hefyd yn mwynhau bod o gwmpas yr ardal. Roedd 'na ddigon o gyfleoedd. Mae rhai pobl yn meddwl bod rhaid iddyn nhw fynd i ffwrdd i wneud rhywbeth, ond 'do'n i 'rioed eisiau gwneud hynny.
"Dwi mor falch fod Dr Haydn Williams, a phobl fel Dad, wedi mynnu cael ysgol Gymraeg yn yr ardal - ac mi weithiodd o! Mae hi'n ysgol llewyrchus iawn, ac mae hi'n anodd credu fod 60 mlynedd wedi mynd heibio ers ei sefydlu."
Y mab afradlon?
Bachgen o Lannefydd yw Gruff Roberts, ac mae'n gweithio i gwmni'r teulu, Llaeth y Llan, ar ôl cyfnod o weithio dramor:
"Roedd bod yn yr ysgol yn brofiad difyr ond yn agoriad llygad mawr ar y dechrau gan mod i wedi mynd yno o Ysgol Llannefydd oedd ond â 50 o ddisgyblion! 'Nes i fwynhau'r holl bynciau ar y cyfan (heblaw mathemateg...!) ac o'n i'n mwynhau chwarae efo'r timau pêl-droed a rygbi. Ar ôl Lefel A, es i i Brifysgol Aberystwyth i wneud BSc mewn Daearyddiaeth, yna i UCL y Llundain i wneud MSC mewn Tirfesureg.
"Yn lwcus, ar ôl graddio, roedd cwmni peirianneg lleol, yn Abergele, angen rhywun gyda fy nghymhwyster, a thrwy'r swydd honno, ges i weithio mewn pob math o ddiwydiannau gwahanol - y diwydiant ynni, diwydiant gwydr, diwydiant olew a nwy ayyb.
"Dwi hefyd wedi byw a gweithio ar Ynysoedd Shetland ac yna i Perth, Awstralia, ac wedi cael cyfle i weithio ar draws Awstralia, De Korea, Vietnam, Papua Guinea Newydd, Singapore, Indonesia, Malaysia a Gwlad Thai ar rai o brosiectau mwya'r byd.
"Ar ôl y trafeilio i gyd, a throi'n 30, nes i benderfynu bod angen mynd nôl i Gymru. Dwi bellach yn gweithio i'r adran Farchnata yng nghwmni'r teulu. Mae hi bendant o fanteisiol i siarad Cymraeg yn y busnes - mae'n ein galluogi ni i farchnata yn ddwyieithog a chyfathrebu'n ddwyieithog gyda'n cwsmeriaid, sy'n hynod o bwysig mewn cwmni rhanbarthol fel Llaeth y Llan.
"Pan o'n i'n gweithio dramor, do'n i ddim yn defnyddio'r Gymraeg rhyw lawer, wrth reswm, ond mae hi'n bleser gallu ei siarad bob dydd rwan. Ac mae hi'n syndod weithiau faint o ddrysau sy'n cael eu hagor ym myd busnes, os wyt ti'n medru'r Gymraeg."
Symud ymlaen
Mewn ffordd, mae hi'n ddechrau ar gyfnod newydd yn yr ysgol - pennaeth newydd, adeilad newydd, gwisg ysgol newydd - a hynny ar ben-blwydd arwyddocaol iawn i'r ysgol uwchradd Gymraeg gyntaf.
Fel mae Bethan Cartwright yn ei egluro: "Mae'n debyg mai'r rheswm am y wisg ysgol frown a melyn yn 1956 odd mai brown oedd yr unig liw oedd ar ôl! Bellach ein lliwiau yw glas a melyn - ond wrth gwrs, rydyn ni'n cadw'r arfbais a'r arwyddair - Harddwch, Dysg, Doethineb.
"Rydyn ni angen cadw mewn cof o lle rydyn ni wedi dod - mae'n hanes a'n traddodiadau ni'n bwysig iawn - ond rydyn ni hefyd am edrych i'r dyfodol."