Gemau Olympaidd Rio: Aur i Jade Jones yn y Taekwondo

  • Cyhoeddwyd
Jade JonesFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Jade Jones wedi amddiffyn y fedal aur enillodd hi yn y Taekwondo yng Ngemau Olympaidd Llundain yn 2012.

Fe wnaeth yr ymladdwr 23 oed o'r Fflint ennill ffeinal y categori -57 cilogram o 16-7 yn erbyn Eva Calvo Gomez o Sbaen.

Jones oedd y ffefryn i ennill yr aur, ond bu'n rhaid iddi ymladd pedair gwaith mewn un diwrnod i wneud hynny, gan drechu athletwyr o Morocco, Gwlad Belg a Sweden ar ei ffordd i'r ffeinal.

"Rydw i'n dal yn ifanc felly mae bod yn bencampwr Olympaidd ddwywaith yn barod yn wallgo'," meddai.

"Ro'n i'n gwybod y byddwn i'n teimlo ychydig o bwysau i amddiffyn y fedal aur, ond doeddwn i ddim wedi sylweddoli cymaint o bwysau fyddwn i'n ei deimlo.

"Mae'r gefnogaeth wedi bod yn anhygoel yma ac rydw i eisiau diolch i bawb amdano. Mae'n golygu popeth i ennill eto."

Gemau gorau'r Cymry

Jade JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd Jade Jones i ennill y ffeinal o 16-7 yn erbyn Eva Calvo Gomez o Sbaen

Rio nawr yn swyddogol yw'r Gemau gorau erioed i'r Cymry.

Dyma oedd y pedwerydd aur i'r Cymry ennill yn y Gemau, gyda Jones yn dilyn y seiclwyr Elinor Barker ac Owain Doull a'r hwyliwr Hannah Mills i dop y podiwm.

Gyda dau ddiwrnod o gystadlu yn weddill, mae gan y Cymry gyfanswm o 10 medal - pedair aur a chwe arian.

Rhyddid Y Fflint?

Yn dilyn ei buddugoliaeth mae maer tref Y Fflint, Ian Roberts wedi cadarnhau bod paratoadau eisoes wedi dechrau i groesawu Jade Jones yn ôl.

Mae disgwyl i daith bws awyr agored gael ei threfnu drwy'r dref, fel y cafodd hi yn dilyn gemau 2012, ac fe fydd castell Y Fflint hefyd yn cael ei oleuo'n aur.

"Rydw i a'r dirprwy faer hefyd yn cynnig y dylai Jade gael rhyddid Fflint. Dyna'r peth lleiaf allwn ni ei wneud," ychwanegodd Ian Roberts.

"Mae hi wedi rhoi Fflint, Sir y Fflint a'r holl ardal ar y map ar draws y byd."