Cyngor Abertawe i drafod dyfodol Stadiwm Liberty
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i Glwb Pêl-droed Dinas Abertawe gynnal trafodaethau newydd gyda chyngor y ddinas ynglŷn â dyfodol Stadiwm Liberty.
Mae'r Elyrch eisiau ychwanegu 12,000 o seddi yn y stadiwm, ond fe roddwyd y cynlluniau i'r neilltu ym mis Rhagfyr 2015 wedi i drafodaethau i brynu'r stadiwm gan yr awdurdod ddod i ben.
Ers hynny, mae'r clwb wedi cael ei brynu gan fuddsoddwyr o'r Unol Daleithiau.
Dywedodd arweinydd y cyngor, Rob Stewart ei fod yn gobeithio y gellir cynnal trafodaethau adeiladol pan fydd yn cyfarfod y perchnogion newydd yn ystod yr wythnos nesaf.
'O nerth i nerth'
"Rydym yn falch eu bod wedi cyrraedd cytundeb i brynu'r clwb," meddai. "Rydym am i'r clwb fynd o nerth i nerth.
"Mae'r cynnig yn dal i fod yno, ac rydym yn dal i fod yn agored i'r opsiwn werthu'r stadiwm, neu fynd am fargen fasnachol gyda nhw yn ehangu'r stadiwm.
"Mae gennym ddiddordeb gweld beth yw gweledigaeth y buddsoddwyr Americanaidd."
Y stadiwm sy'n dal 21,000, ac sy'n gartref i'r clwb pêl-droed a rhanbarth rygbi'r Gweilch, yw'r ail leiaf yn Uwch Gynghrair Lloegr, tu ôl i Stadiwm Vitality Bournemouth.
Tua 20,500 oedd cyfartaledd torfeydd Abertawe yn eu pum tymor yn yr Uwch Gynghrair.
Mae'r clwb eisiau cynyddu'r capasiti i 33,000, ond yn y pen draw y gobaith yw ehangu'r stadiwm i 40,000 o seddi.
Fis diwethaf, dywedodd cadeirydd Abertawe, Huw Jenkins bod y clwb "angen sicrhau bod y cyngor yn cytuno" gyda'r cynlluniau.
Ond dywedodd Mr Stewart nad oedd y cyngor wedi gwneud sylwadau yn ddiweddar ar y cynigion er mwyn caniatáu i Jason Levien a Steve Kaplan gwblhau eu buddsoddiad yn y clwb.