Llanddwyn yn 'achosi problemau traffig' yn Niwbwrch
- Cyhoeddwyd
Mae rhai o drigolion pentref Niwbwrch ar Ynys Môn wedi galw am weithredu i ddatrys trafferthion traffig yn y pentref.
Ar adegau prysur, pan fo'r tywydd yn braf, mae llawer o draffig yn y pentref gan fod ymwelwyr yn heidio i draeth Llanddwyn gerllaw.
Dywedodd trigolion ei bod yn gallu cymryd tri chwarter awr i fynd o un ochr y pentref i'r llall, ac maen nhw am i'r cyngor wneud rhywbeth i ddatrys y broblem.
Yn ôl cynghorydd lleol, Ann Griffith mae ceir yn parcio ar linellau melyn a lorïau nwyddau yn stopio ar ochr y ffordd yn beth cyffredin yn y pentref erbyn hyn.
"Ar ben hynny, mae 'na dwf sylweddol yn yr ymwelwyr sy'n dod yn arbennig i draeth Llanddwyn," meddai Ms Griffiths.
"Dim ond hyn a hyn o lefydd parcio sydd i lawr ar draeth Llanddwyn, er bod y maes parcio yn un mawr iawn.
"Ond ar adegau pan mae'r maes parcio wedi llenwi mae'n creu hafoc, mae 'na bandemoniwm yn y pentre'."
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ynys Môn eu bod yn ymwybodol o'r broblem yn Niwbwrch a bod swyddogion y cyngor yn cyd-weithio gyda Ms Griffith i ystyried y broblem.