Cyn-weinidog economi: 'Gwrthdaro buddiannau posib'

  • Cyhoeddwyd
Edwina Hart
Disgrifiad o’r llun,

Fe gymeradwyodd Edwina Hart gyfres o fenthyciadau a grantiau i Kancoat

Mae'n bosib bod gan gyn-weinidog economi Llywodraeth Cymru wrthdrawiad buddiannau pan y cymeradwywyd nawdd ariannol gwerth £3.4m i gwmni o Abertawe aeth wedyn i'r wal, yn ôl cyn-oruchwylydd safonau mewn bywyd cyhoeddus.

Fe benderfynodd Edwina Hart gefnogi cwmni Kancoat er gwaethaf adroddiad a ddywedodd bod gan y cwmni gynllun busnes "gwan".

Dywedodd Syr Alistair Graham bod y posibilrwydd o greu swyddi yn ei hetholaeth wedi arwain Ms Hart at y gwrthdaro buddiannau posib.

Ond yn ôl Llywodraeth Cymru, roedd y gefnogaeth "yn cyd-fynd â Chod y Gweinidogion". Y rheswm am hyn, meddai, yw bod y cwmni wedi'i leoli tu allan i etholaeth y gweinidog.

Mae cais wedi'i wneud am sylw gan Ms Hart, oedd yn cynrychioli Gŵyr cyn iddi adael y cynulliad cyn yr etholiad diwethaf.

Hanner milltir

Gwaith Kancoat, gafodd ei sefydlu ar safle hen ffatri Alcoa yn Waunarlwydd, oedd rhoi côt ar fetelau i'w defnyddio fel tuniau bwyd a chynnych eraill.

Roedd wedi ei leoli llai na hanner milltir o etholaeth Ms Hart.

Fe ddatgelodd adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru fod gan y cwmni ddyled o £2.6m i'r llywodraeth. Cafodd 12 o swyddi eu creu, ond fe aeth y cwmni i drafferthion wrth iddyn nhw fethu â chynnal eu cyflenwad dur.

Disgrifiad o’r llun,

Lleoliad Kancoat yn yr etholaeth drws nesaf i un Ms Hart sy'n creu gwrthdaro buddiannau posib, yn ôl Syr Alistair Graham

Dywedodd Sir Alistair, oedd yn gadeirydd ar Bwyllgor Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus y DU rhwng 2004 a 2007: "Mae paragraff 4.4 Cod y Gweinidogion yn annog gweinidogion i 'ofalu' eu bod yn osgoi gwrthdaro buddiannau.

"Gan fod lleoliad etholaeth y gweinidog yn y cynulliad drws nesaf i leoliad Kancoat, byddai'r bobl yn ei hetholaeth yn elwa o unrhyw swyddi newydd fyddai'n cael eu creu.

"Roedd hi felly yn wynebu posibilrwydd o wrthdaro buddiannau, neu'r argraff bod yna wrthdaro buddiannau, rhwng ei rôl fel aelod cynulliad a'i rôl fel gweinidog," meddai.

Ychwanegodd: "Mae'r cod ymddygiad ar gyfer gweinidogion yn ei gwneud hi'n eglur bod rhaid i weinidogion ofalu eu bod yn osgoi'r posibilrwydd o wrthdaro buddiannau neu hyd yn oed yr argraff o wrthdaro buddiannau.

"Mae'n bwysig bod gweinidogion yn medru sefyll uwchben unrhyw benderfyniad heb fod yna wrthdaro posib oherwydd eu buddiannau gwleidyddol fel aelod cynulliad."

Disgrifiad o’r llun,

Hen safle cwmni Alcoa oedd cartref Kancoat yn ardal Abertawe

Cod y Gweinidogion

Mae paragraff 4.4 Cod y Gweinidogion, sy'n gosod safonau ymddygiad i weinidogion, yn nodi:

"Os oes yn rhaid i'r Gweinidogion benderfynu ar faterion sydd yn eu portffolios eu hunain a allai effeithio ar eu hetholaethau neu eu rhanbarthau etholaethol, dylent ofalu eu bod yn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posibl.

"Os nad yw Gweinidog yn siŵr a oes gwrthdaro ai peidio rhwng y swydd y mae'n ei gwneud fel Gweinidog a'i swydd yn yr etholaeth/rhanbarth, dylai ymgynghori â'r Prif Weinidog ynghylch sut i ymdrin â'r mater."

Rhwng Mai 2012 a Chwefror 2014, derbyniodd Kancoat gyfanswm o £3.4m mewn grantiau a benthyciadau, diolch i benderfyniadau Llywodraeth Cymru gafodd eu cymeradwyo gan Ms Hart.

Fe wnaeth adolygydd mewnol Llywodraeth Cymru godi pryderon am brosiectau ariannol Kancoat ym mis Chwefror 2013.

Yn ôl yr adolygiad, roedd cynllun busnes y cwmni "i'w weld yn wan ac anghyson" ac yn brosiect "risg uchel".

Er hynny, fe wnaeth Ms Hart gymeradwyo cyfres o grantiau a benthyciadau:

  • Grant o £778,000 ym mis Mawrth 2013

  • Grant o £500,000 a benthyciad o £800,000 ym mis Awst 2013

  • Grant o £200,000 ym mis Tachwedd 2013

  • Grant masnachol o £500,000 ym mis Chwefror 2014

Aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr ym mis Medi 2014.

Cafodd cais blaenorol am gefnogaeth ei wrthod gan sefydliad buddsoddi'r llywodraeth, Cyllid Cymru, gan fod y risg yn "annerbyniol o uchel."

Datganiad y Llywodraeth

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Pan fo rhaid i weinidogion wneud penderfyniadau ar eu portffolios fyddai'n gallu cael effaith benodol ar eu hetholaeth neu eu rhanbarth, dylent ofalu eu bod yn osgoi unrhyw wrthdaro buddiannau posib.

"Yn yr achos hwn, doedd y cwmni dan sylw ddim o fewn etholaeth cyn-weinidog yr economi.

"Felly roedd ei phenderfyniad yn gyson â Chod y Gweinidogion."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn y gorffennol bod y penderfyniad i gefnogi Kancoat wedi ei seilio ar amcangyfrifon y byddai 30 o swyddi'n cael eu creu.

Mae hefyd wedi dweud ei bod wedi adolygu ei dull gweithredu ers hynny, a bod "nifer o newidiadau allweddol" wedi eu gwneud.