Seren Steddfod y Fenni yn 100

  • Cyhoeddwyd

Daeth enw Helena Jones i'r amlwg ddechrau mis Awst pan fuodd hi'n cystadlu yn y gystadleuaeth llefaru yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni, a hithau'n 99 oed.

Ddydd Sul, mae Helena o Aberhonddu, yn dathlu ei phenblwydd yn 100 oed a chafodd Cymru Fyw sgwrs â hi am ei bywyd, y gynghanedd a'r gyfrinach o gyrraedd y 100:

"Dwi ddim wedi 'neud dim byd arbennig i gyrraedd y 100, heblaw anadlu!" meddai yn ei llais sionc. "Dwi'n berson hapus ac yn dal i fwynhau bywyd. Cefais fy magu ar fwyd iach, dwi'n hoffi ffrwythau a dwi ddim yn yfed. Ond dwi yn hoffi siocled!"

Mae Helena Jones yn parhau i fyw ar ei phen ei hun ac yn credu'n gryf bod byw bywyd prysur a chadw'r meddwl yn chwim yn bwysig iawn.

"Dwi'n gwneud tipyn o sgrifennu ar gyfer y WI, dwi wedi dechrau ar fy llyfr diweddaraf, ond mae'n anodd ffeindio'r amser! Rhwng y garddio a'r gwaith tŷ a'r pethau eraill dwi'n eu gwneud, dwi'n aelod o Glwb Siarad a dwi'n sgrifennu barddoniaeth a'i ddarllen i aelodau'r clwb."

Roedd y sylw mawr a gafodd Helena Jones, a'r ymateb anhygoel a gafodd y fideo ohoni'n llefaru ar wefan Cymru Fyw a'r cyfryngau cymdeithasol ddechrau mis Awst, wedi ei syfrdanu'n fawr.

Disgrifiad,

Helena Jones, 99 oed, yn cystadlu ar lwyfan yr Eisteddfod

"Doeddwn i'n methu credu. Does gen i ddim o'r gadgets modern yma, ond roeddwn i wedi clywed am y peth. Ro'n i'n wrth fy modd. Ces i lythyr gan fy nith o'r Wyddgrug oedd wedi fy ngweld yn llefaru, ac roedd hi'n dweud ei bod hi'n falch ac yn browd ohona i. Mae'n hyfryd pan mae pobl yn dweud wrthai eu bod nhw'n browd."

A hithau wedi bod yn cystadlu ers pan oedd hi'n bedair oed, mae Eisteddfota yn ei gwaed ac mae hi'n dal i ymwneud ag Eisteddfod leol Trallong. Derbyniodd dystysgrif gan Gymdeithas Eisteddfodau Cymru i nodi 60 mlynedd o wasanaeth i'r Eisteddfod, ar faes Y Fenni eleni.

Bu'n hyfforddi dwsinau o blant i ganu a chystadlu mewn eisteddfodau dros y blynyddoedd, gan gynnwys y canwr enwog Rhydian, a'i gobaith yw y bydd aelod arall o'i theulu yn dilyn yn ôl ei throed i'r llwyfan.

"Mae gen i or-ŵyr sydd yn bump oed a hoffwn i ei weld e'n mynd i berfformio a chystadlu yn yr Eisteddfod. Does ganddo ddim diddordeb eto, ond pan welodd e fi'n adrodd ar y teledu, dywedodd "dyna Nana ar y teledu, dwi eisiau 'neud yr un peth â hi". Dwi'n siŵr y bydd e ar y llwyfan rhyw ddiwrnod!"

"Dwi'n gredwr mawr iawn mewn eisteddfodau. Y trueni mawr ydy pan wnaethon nhw gau'r ysgolion bach gwledig, fe aeth yr eisteddfodau. Mae perfformio ar lwyfan yn rhoi hyder i chi ac yn eich rhoi chi ar ben ffordd yn eich bywyd."

Her arall a osododd Helena i'w hunan yn hwyr mewn bywyd, oedd i ddysgu Cymraeg. Er bod ei thad yn siarad Cymraeg pan yr oedd hi'n blentyn, Saesneg oedd iaith yr aelwyd am nad oedd ei mam yn medru'r iaith, meddai, a phenderfynodd fynd ati i ddysgu a sefyll arholiadau pan oedd hi'n 90 oed.

"Fe wnes i arholiadau sylfaenol a chanolradd, ond ro'n i eisiau mynd ymhellach. Ro'n i eisiau gwybod mwy am y gynghanedd, ond doedd neb yn y coleg yn gallu fy helpu i. Dwi'n gwybod am gynghanedd lusg a chynghanedd groes, ond byswn i'n hoffi dysgu mwy."

"Yn anffodus, sgen i ddim llawer o gyfleoedd i siarad Cymraeg rhyw lawer, ond dwi'n browd iawn bod fy wyrion a gor-wyrion yn gallu siarad yr iaith."

Ar drothwy'r pen-blwydd pwysig, sut mae Helena Jones yn teimlo am gyrraedd y cant?

"Dwi ddim eisiau bod yn 100 oed i ddweud y gwir, ond dwi'n edrych ymlaen at y dathlu. Rydw i wedi cael un parti gyda'r teulu yn barod. Ac maen nhw'n trefnu parti arall i fi yng Nghwm Elan. Dewisiais i'r fan honno am mai dyna lle gwrddais â fy ngŵr ac mae gen i nifer o atgofion hapus iawn o'r ardal honno lle fuon ni'n ffermio a buais i'n dysgu yno.

"Do'n i ddim wir eisiau parti mawr ond dwi'n clywed o hyd am bwy sy'n dod felly dwi'n meddwl bydd llawer o bobl yno!"