Cystadleuydd 99 oed yn adrodd ar lwyfan am y tro olaf
- Cyhoeddwyd
Mae cystadleuydd sydd wedi bod wrthi ers ei bod hi'n bedair oed wedi dweud mai'r dyma'r tro olaf y bydd hi'n camu ar y llwyfan yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ddiwedd y mis fe fydd Helena Jones yn dathlu ei phen-blwydd yn 100 oed ac fe gychwynnodd hi trwy gystadlu mewn eisteddfodau yn y capel.
Er bod ei thad yn siarad Cymraeg, Saesneg oedd iaith yr aelwyd am nad oedd ei mam yn medru siarad yr iaith.
Fe ddysgodd Gymraeg trwy fynd i Sefydliad y Merched yn Aberhonddu: "Yna fe es i'r coleg yn Aberhonddu ac fe sefais arholiad sylfaen a chanolradd yn y Gymraeg ryw saith mlynedd yn ôl.
"Ond nid oes llawer o siawns yn Aberhonddu i siarad Cymraeg ac os nad ydw i yn siarad Cymraeg dw i'n colli fe. Dw i'n gwylio Pobl y Cwm. Mae'r eisteddfodau wedi helpu fi llawer i ddysgu Cymraeg."
Mae wedi bod wrthi yn cystadlu ers blynyddoedd ac yn dweud ei bod yn mwynhau'r profiad: "Dw i'n mwynhau ond heddiw dw i yn teimlo yn grac iawn, dw i wedi anghofio (y geiriau). Dyw fy nghof ddim mor dda ag oedd e."
Ond ar ôl eleni mae'n bwriadu rhoi'r gorau iddi: "Fe hoffwn ysgrifennu y tro nesaf ond dim adrodd."
Ar gyfer ei phen-blwydd mae yna ddathliadau wedi eu trefnu meddai. "Dw i'n cael parti gyda'r teulu, dim parti mawr, dim ond y teulu ac mae Sefydliad y Merched yn gwneud parti arall i fi.
"Dydyn nhw ddim yn dweud wrtha i fi beth sydd yn digwydd," meddai.
Ond sut mae'n teimlo am fod yn 100 oed? Mae'n ateb trwy chwerthin. "Fydde yn well gyda fi fod yn 99 am byth."