Horizon yn lansio ail ymgynghoriad ar Wylfa Newydd

  • Cyhoeddwyd
Wylfa NewyddFfynhonnell y llun, Horizon
Disgrifiad o’r llun,

Dyluniad arlunydd o safle arfaethedig yr orsaf newydd ar Ynys Môn

Mae pobl ledled gogledd Cymru yn cael eu gwahodd i leisio eu barn am y cynigion diweddaraf ar gyfer prosiect gorsaf bŵer niwclear Wylfa Newydd.

Mae ail gam yr ymgynghoriad ar y safle arfaethedig ar Ynys Môn yn dechrau ddydd Mercher ac yn dod i ben ar 25 Hydref.

Dyma'r ymgynghoriad olaf sydd wedi'i drefnu cyn y bydd Pŵer Niwclear Horizon yn cyflwyno ei gais am Orchymyn Caniatâd Datblygu yn 2017.

Dywedodd Horizon ei fod yn awyddus i gael adborth am nifer o bynciau penodol, gan gynnwys yr agwedd at ddiogelu a hyrwyddo'r Gymraeg.

Bydd 15 arddangosfa gyhoeddus yn cael eu cynnal ar draws Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy i bobl leol weld y cynlluniau a rhoi adborth.

Mae cyfle hefyd i fynychu 10 sesiwn 'galw heibio' yn ystod yr wythnos ym maes parcio'r Douglas Inn yn Nhregele, ble mae cyfle i drafod ag aelodau tîm Horizon.

Mae'r holl ddogfennau ymgynghori hefyd ar gael ar wefan Horizon, dolen allanol.

Effaith ar y Gymraeg

Dywedodd Robat Idris o fudiad PAWB (Pobl Atal Wylfa B) bod gan Horizon gwestiynau pellach i'w hateb tu hwnt i'r hynny fydd yn cael ei drafod yn yr ymgynghoriad:

"Fe fuaswn i'n gofyn i Horizon ydyn nhw'n mynd i roi mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â phethau fel lle yn union ar y safle 'dach chi am gadw'r gwastraff gwenwynig dros ganrif a hanner, maen nhw wedi bod yn anelwig hyd yma," meddai ar raglen Post Cyntaf BBC Radio Cymru.

Ychwanegodd nad oedd hi'n "hollol eglur" faint o'r swyddi fyddai'n mynd i weithwyr lleol, gan herio Horizon hefyd dros eu cais i'r cyngor i ddileu cymal yn y cynllun datblygu lleol sydd yn diogelu cymeriad ieithyddol ardaloedd yn sgil datblygiadau mawr.

"Rydych chi'n gefnogol i'r iaith Gymraeg meddech chi, ac eto rydych chi eisiau tynnu un o brif gonglfeini'r polisi o'na," cyhuddodd Robat Idris.

Mynnodd Richard Foxhall o gwmni Horizon nad oedd y polisi yn ystyried y ffaith mai gweithwyr dros dro fyddai nifer o'r rhai di-Gymraeg fyddai'n cael eu cyflogi:

"Does 'na ddim byd ynddi sydd yn cymryd i mewn i ystyriaeth effaith dros dro negyddol ar yr iaith, felly mae hwn yn creu risg i'r prosiect fel mae wedi'i 'sgwennu ar hyn o bryd," meddai.

Ffynhonnell y llun, Horizon

Manylion yr arddangosfeydd cyhoeddus:

  • Dydd Mawrth, 6 Medi, 13:00 - 19:00, Clwb Cymdeithasol a Chwaraeon Wylfa, Bae Cemaes;

  • Dydd Mercher, 7 Medi, 13:00 - 19:00, Neuadd Bentref Cemaes

  • Dydd Gwener, 9 Medi, 13:00 - 19:00, Maes parcio'r Douglas Inn, Tregele;

  • Dydd Sadwrn, 10 Medi, 10:00 - 13:00, Neuadd Goffa Amlwch

  • Dydd Mawrth, 13 Medi, 13:00 - 19:00, Neuadd Bentref Llanfachraeth

  • Dydd Gwener, 16 Medi, 13:00 - 19:00, Griffith Reade Coffee House, Caergybi;

  • Dydd Sadwrn, 17 Medi, 10:00 - 13:00, Neuadd y Dref Llangefni

  • Dydd Llun, 26 Medi, 13:00 - 19:00, Canolfan Gymuned Rhosybol

  • Dydd Mawrth, 27 Medi, 13:00 - 19:00, Canolfan Ucheldre, Caergybi;

  • Dydd Iau, 29 Medi, 13:00 - 19:00, Gwesty'r Celt, Caernarfon;

  • Dydd Sadwrn, 1 Hydref, 10:00 - 13:00, Canolfan Hamdden Glaslyn, Porthmadog;

  • Dydd Llun, 3 Hydref, 13:00 - 19:00, Gwesty The Valley Anglesey, Y Fali;

  • Dydd Sadwrn, 8 Hydref, 10:00 - 13:00, Neuadd y Penrhyn, Bangor;

  • Dydd Llun, 10 Hydref, 13:00 - 19:00, Canolfan Gymuned Thomas Telford, Porthaethwy

  • Dydd Iau, 13 Hydref, 13:00 - 19:00, Eglwys y Santes Fair, Conwy.