Lansio ymgyrch cenedlaethol i waredu baw cŵn
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch yn cael ei lansio ddydd Mercher i hybu pobl i gael gwared ar faw eu cŵn neu wynebu dirwy.
Daeth arolwg gan Ymddiriedolaeth Cŵn Pen-y-bont i'r casgliad bod 52% o bobl yng Nghaerdydd yn credu mai baw cŵn oedd yr hyn oedd yn eu gwylltio fwyaf mewn llefydd cyhoeddus - a hynny'n uwch nag ysmygu neu ollwng sbwriel.
Dywedodd 40% o'r bobl gafodd eu holi eu bod yn darganfod baw cŵn ar lawr fwy nag unwaith yr wythnos, ond dywedodd 57% eu bod yn "rhy gwrtais" i gwyno wrth berchnogion y cŵn am y broblem.
Bwriad yr ymgyrch ydi atgoffa pobl sydd ddim yn cael gwared â baw eu hanifeiliaid bod dirwyon yn bosib os byddant yn cael eu dal.
Dywedodd pennaeth ymgyrchoedd yr Ymddiriedolaeth Gŵn, Alex Jackson: "Mae baw cŵn yn un o'r cwynion pennaf sy'n cael eu derbyn gan awdurdodau lleol bob blwyddyn.
"Mae'n bwysig fod pawb yn ymwybodol o ba mor hawdd yw cael gwared â baw cŵn."