Archwiliadau pellach i dri bwrdd iechyd yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod tri bwrdd iechyd o dan fesurau archwilio a rheoli llymach yn dilyn pryderon am eu gallu i ddelio â'r heriau sydd yn eu hwynebu.
Fe fydd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg, a Hywel Dda yn wynebu "camau ymyrraeth penodol" - un lefel yn is na chael eu rhoi mewn mesurau arbennig.
Dyw'r un o'r tri bwrdd iechyd wedi llwyddo i gyflwyno cynlluniau pendant ar gyfer delio â heriau lleol, yn ôl yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yw'r unig un yng Nghymru sydd o dan fesurau arbennig ar hyn o bryd.
Mae'r byrddau iechyd eraill - Aneurin Bevan, Cwm Taf, Powys - ac ymddiriedolaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru, Velindre, a'r Gwasanaeth Ambiwlans i gyd yn gweithredu o dan y lefel isaf o oruchwyliaeth.
'Nifer o heriau'
Bydd byrddau iechyd Caerdydd a'r Fro, Abertawe Bro Morgannwg, a Hywel Dda i gyd yn cael eu monitro nawr yn erbyn cynllun gwelliant blwyddyn.
Ar y llaw arall mae lefel goruchwyliaeth y Gwasanaeth Ambiwlans wedi gostwng ar ôl iddyn nhw wneud "cynnydd sylweddol".
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd bod bwrdd iechyd Abertawe Bro Morgannwg "yn wynebu heriau parhaol yn ymwneud â gofal annisgwyl a chanser", yn ogystal â bod heb gynllun tair blynedd wedi'i wirio.
Er bod bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro wedi gwella, meddai, doedden nhw dal heb ei argyhoeddi "bod ganddyn nhw gynllun fforddiadwy y bydd modd ei gyflawni ar gyfer y tair blynedd nesaf".
Ychwanegodd Mr Gething bod bwrdd iechyd Hywel Dda yn "wynebu nifer o heriau hir dymor" fydd angen "datrysiadau strategol" er mwyn sicrhau bod eu gwasanaethau yn gynaliadwy.