Wedi gwirioni efo Star Trek
- Cyhoeddwyd
Mae 50 mlynedd ers i Capten Kirk, Mr Spock a'u cyd-deithwyr ar y Starship Enterprise ymddangos ar y teledu am y tro cyntaf.
Er hynny mae 'Star Trek' wedi ennyn miloedd o ddilynwyr (Trekkies) ar hyd a lled y byd ac rhai ohonyn nhw yn mynd i eithafion i arddel eu harwyr. Yn eu plith mae Alex Greene o Wrecsam, sy'n gallu siarad yr iaith Klingon yn rhugl.
Buodd yn dweud wrth Cymru Fyw sut y cafodd o'i gyfareddu gan y gyfres:
Neges o obaith
Dwi ddim yn cofio adeg yn fy mywyd heb 'Star Trek'. Wnes i weld y rhaglen gynta pan o'n i'n blentyn pan welis i'r bennod 'That which survives', ond fy hoff bennod yw 'The Trouble with Tribbles' sydd efo'r Klingons ynddo, ac wrth gwrs y creaduriaid Tribbles.
Mi wnes i ddod yn ffan mawr tua 30 mlynedd yn ôl, ond doeddwn i byth yn meddwl y byswn i'n arbenigwr ar 'Star Trek' ac yn siarad Klingon yn rhugl.
Dwi'n meddwl bod apêl cyfresi 'Star Trek' yn dod o'r neges wreiddiol o obaith oedd gan Gene Roddenberry, a greodd y gyfres yn 1966.
Neges Roddenberry oedd bod gan y ddynol ryw ddyfodol allan ymysg y sêr os fyddai cenhedloedd y byd yn dod at ei gilydd i weithio fel un.
Yn ôl gweledigaeth wreiddiol 'Star Trek' does dim newyn na thrachwant, ac mae'r ifanc yn cael cyfleoedd. Dwi'n dal i gredu yn y neges hon, a dyna pam fydda i'n dathlu pen-blwydd 'Star Trek' yn 50.
Mae gan 'Star Trek' le pwysig yn niwylliant yr ugeinfed ganrif, ac mae ambell stori yn dangos hyn yn glir. Yn y bennod 'The Corbomite Maneuver' roedd yr actores ddu Nichelle Nichols, a oedd yn chwarae'r cymeriad Lieutenant Nyota Uhura, yn adrodd yr un linell drwy'r holl bennod- "Hailing frequencies open Sir", drosodd a drosodd.
Roedd Nichols wedi cael llond bol ac roedd hi'n ystyried rhoi'r gorau i chwarae Liuetenant Uhura. Ond un dydd roedd yna gnoc ar ddrws ei threilar, a pwy oedd yno ond yr arweinydd hawliau dynol, Martin Luther King. Dywedodd o wrthi ei bod hi'n ffigwr ofnadwy o bwysig yn y frwydr am hawliau cyfartal i bobl ddu ac fe berswadiodd hi i aros efo'r rhaglen.
Hefyd, roedd y cymeriad Rwsaidd Pavel Chekov yn cael ei chwarae gan yr actor Walter Koenig. Roedd 'na bwysau wedi ei roi ar gynhyrchwyr y rhaglen i gael Rwsiaid ar bont yr Enterprise - ac roedd hyn yn eitha dadleuol yng nghanol y Rhyfel Oer.
Ond fe roedd yn amcan gan y 'sgrifennwyr i gael Uhura, Chekov a Hikaru Sulu yn gymeriadau amlwg er mwyn dangos amrywiaeth ar gyfer y dyfodol.
Dysgu Klingon
Mae dysgu Klingon dipyn haws na dysgu iaith go iawn fel Cymraeg. Roedd pawb yn cymryd y byddai'n hawdd i fi ddysgu Klingon gan fod yna lythrennau tebyg i 'ch' a 'll' o'r Gymraeg ynddo, ond tydi hynny ddim yn wir. Yn wahanol i ieithoedd llyfrau Tolkein, sydd wedi eu dylanwadu gan ieithoedd Celtaidd, does gan Klingon ddim tarddiad sy'n bosib ei 'nabod.
Dwi'n meddwl ei bod yn bosib dysgu Klingon mewn rhyw chwe mis os 'da chi'n gweithio'n galed arno fo. Dwi'n cael digon o gyfleoedd i siarad efo ffans eraill, drwy Skype a gwefan Google Hangouts. Mae gen i ffrindiau sy'n siarad Klingon yn yr Unol Daleithiau, Sweden, Yr Almaen a gwledydd eraill.
Cyfarfod arwyr
Dwi wedi cyfarfod gyda lot o ffans Star Trek, ond dydw i ddim wedi bod i'r conventions yn yr Unol Daleithiau eto. Dwi wedi cyfarfod efo rhai o'r sêr fel Walter Koenigalter, Nichelle Nichols, George Takei ac Mark Lenard a oedd yn chwarae rhan tad Spock yn y gyfres wreiddiol. Mi wnes i hefyd gyfarfod Jimmy Doohan (Scotty) a DeForest Kelley (Dr. Leonard "Bones" McCoy).
Dwi heb gyfarfod Patrick Stewart (Captain Picard) na Williams Shatner (Captain Kirk), ond mi wnes i weld Stewart mewn convention yn Birmingham rhyw dro, pan nath o droi fyny heb unrhyw rybudd - dyna'r ffordd mae o'n hoffi cyfarfod â'r ffans.
Dwi'n hoff o 'Star Trek The Next Generation', ac mae 'Star Trek Enterprise' yn tyfu arnai, ond i fod onest y gwreiddiol ydy fy ffefryn hyd heddiw. Does dim cyfres wedi bod yn debyg iddi hi, a dwi erioed di gweld rhaglen gydag awyrgylch cystal â phan oedd Kirk a Spock ar y sgrin efo'i gilydd.
Ond o ran y capteiniaid o'r bump cyfres, fy ffefryn yw Captain Sisko o 'Star Trek Deep Space Nine', wedyn Kirk, Jean-Luc Picard, Janeway o 'Voyager' yn bedwerydd a Jonathan Archer o 'Star Trek Enterprise' yn olaf.
Bydd cyfres newydd 'Star Trek Discovery' yn dechrau flwyddyn nesaf, a dwi'n credu bydd y ffocws yn wahanol, ac bydd mwy o amrywiad ynddo gan gynnwys cwpl hoyw. Dwi'n edrych mlaen i weld y datblygiadau newydd. Fy ngobaith ydi rhyw ddydd y bydd y Gymraeg yn cael ei siarad ar gyfres Star Trek.
Mae cyfresi y gellir cymharu i 'Star Trek' fel 'Babylon 5', 'Stagate SG-1' a 'Farscape', ond yr un sy'n dod agosaf yn fy marn i yw 'Doctor Who'.
Dydi cyfresi ffilm 'Star Wars' ddim yn dod yn agos o gwbl, mae rheiny mwy fel dragonslayer neu ffantasi fel 'Lord of The Rings', dydi o ddim yn science fiction go iawn fel 'Star Trek' neu 'Doctor Who'. Mae gan 'Star Trek' lot mwy o ddyfnder yn perthyn iddo.
Dwi'n gobeithio y bydd 'Star Trek' yn realiti rhyw ddydd. Mae gwyddonwyr yn gwneud darganfyddiadau newydd yn y gofod bob dydd felly mae'n byd ni yn dod yn nes i'r byd mae'r cymeriadau yn rhan ohono. Mae hi'n fraint i fyw yn yr oes yma lle mae'r datblygiadau 'ma'n digwydd.