Cau twnnelau: Gwasanaeth awyr i Lundain yn dechrau
- Cyhoeddwyd
Mae gwasanaeth awyr newydd rhwng Caerdydd a Llundain wedi dechrau, i gyd-fynd â'r gwaith peirianyddol mawr sy'n digwydd ar y rheilffordd rhwng y ddwy brifddinas.
Bydd y teithiau gan gwmni Flybe yn rhedeg tair gwaith y diwrnod o Faes Awyr Caerdydd i Faes Awyr Dinas Llundain hyd at 21 Hydref.
Mae disgwyl i'r teithiau gymryd tua 75 munud naill ffordd.
Yn ystod yr un cyfnod, fe fydd Twnnelau Hafren hefyd ar gau fel rhan o'r rhaglen i drydaneiddio'r rheilffyrdd.
Cau Twnnel Hafren
Y twnnel ar gau rhwng 12 Medi a 21 Hydref
Trenau i Lundain yn cael eu dargyfeirio drwy Gaerloyw, fydd yn ychwanegu tua 45 munud i deithiau
Dim trenau i Fryste, ond gwasanaeth bws yn cysylltu gorsafoedd Casnewydd a Chyffordd Twnnel Hafren gyda Bristol Parkway, fydd yn ychwanegu 40 munud i'r siwrne
Llai o wasanaethau ar y lein
Fe ddywedodd Ysgrifennydd yr Economi ei fod yn falch o weld y gwasanaeth awyr newydd yn cael ei lansio.
"Mae'r cysylltiad rhwng de Cymru a de ddwyrain Lloegr yn hanfodol i deithwyr a busnesau a dwi wrth fy modd bod Maes Awyr Caerdydd yn cynnig ateb i sefyllfa a allai, fel arall, arwain at oedi costus," meddai Ken Skates.
"Dwi'n deall y bydden nhw'n ystyried parhau â'r gwasanaeth ar ôl y cyfnod o 6 wythnos os yw'r gwasanaeth yn boblogaidd."
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns, y bydd y gwasanaeth yn help i'r economi yn y cyfnod y bydd y twnneli ar gau.
Ychwanegodd: "Dwi'n gobeithio y gwelwn ni ystod ehangach o wasanaethau awyr rhanbarthol rhwng Llundain a Chaerdydd yn y tymor hir."
Mae Twnnel Hafren, sy'n 130 oed, ar gau am chwe wythnos er mwyn gosod mwy nag wyth milltir o offer trydanol.