Prifysgolion yn 'cymryd mantais' o weithwyr, medd undeb
- Cyhoeddwyd
Bydd gweithwyr prifysgol yng Nghymru'n penderfynu ddydd Llun os y bydden nhw'n mynd ar streic dros amodau gwaith a chyflog, wrth i'r cyfnod pleidleisio ar weithredu diwydiannol ddod i ben.
Mae undeb Unsain yn dweud bod y prifysgolion yn "cymryd mantais" o'u gweithwyr drwy'r defnydd o gytundebau dim oriau.
Yn ôl yr undeb, mae'r sefydliadau hefyd yn or-ddibynnol ar staff asiantaethau tra bod gwariant ar gyflogau uwch-swyddogion wedi cynyddu.
Mae rhai o'r prifysgolion wedi amddiffyn eu polisïau staffio, gan ddweud bod y defnydd o asiantaethau yn gyffredin ym maes addysg uwch a bod rhaid iddyn nhw dalu cyflog cystadleuol i ddenu staff o'r safon uchaf.
Mae ffigyrau'n dangos mai Prifysgol Aberystwyth oedd yn cyflogi'r nifer mwyaf o staff ar gytundebau dim oriau yn 2014/15.
Faint o staff oedd ar gytundeb dim oriau yn 2014/15?
Prifysgol Aberystwyth - 660+
Prifysgol Glyndŵr - 360+
Prifysgol Abertawe - 300+
Mae cytundebau dim oriau yn golygu nad oes rheidrwydd ar gyflogwr i gynnig gwaith i weithiwr dan gytundeb, a does dim yn rhaid i'r gweithiwr dderbyn y gwaith sydd ar gael pan ddaw cais iddo fo neu hi weithio.
Yn ôl Unsain, mae hynny'n golygu bod llawer o weithwyr ar gyflogau isel ac heb sicrwydd o waith parhaol, tra bod penaethiaid ar gyflogau breision.
Fis diwethaf fe gyhoeddwyd ffigyrau yn dangos bod 210 o uwch-swyddogion ym mhrifysgolion Cymru yn cael eu talu dros £100,000 y flwyddyn.
Fe ddywedodd Prifysgol Aberystwyth eu bod yn gweithio gydag undebau i leihau nifer y staff ar gytundebau dim oriau, ac mai'r ffigwr ar gyfer Medi 2016 hyd yn hyn yw 195.
Mae'r ystadegau'n dangos nad oedd prifysgolion Caerdydd a Met Caerdydd yn cyflogi unrhyw un ar gytundeb dim oriau yn 2014/15, ond yn cyflogi mwy o staff asiantaeth.
Fe ddywedodd Unsain mai dim ond codiad cyflog o 1.1% y cafodd gweithwyr cynorthwyol prifysgolion eleni, a bod llawer wedi gweld gostyngiad cyflog mewn termau real dros y blynyddoedd diwethaf.
"Mae bywydau'r is-ganghellorion yn anghredadwy o foethus i'r bobl sydd yn gyfrifol am gadw'r prifysgolion i fynd wrth gynorthwyo darlithwyr, edrych ar ôl yr adeiladau a gofalu am y myfyrwyr," meddai Simon Dunn, trefnydd Unsain Cymru dros Addysg Uwch.
"Mae miloedd o bobl yn y gweithlu hanfodol yma'n dioddef o gyflogau isel a chyflogaeth ansicr."
Ychwanegodd bod y sefydliadau yn "cymryd mantais" o'u gweithwyr a'i bod hi'n bryd iddyn nhw gynnig cyflogau "teg" i'w holl staff.
Gwariant ar weithwyr asiantaeth yn 2014/15
Prifysgol Caerdydd - £1.8m
Prifysgol De Cymru - £854,000
Prifysgol Abertawe - £382,000
Prifysgol Y Drindod Dewi Sant - £284,000
Mewn ymateb i'r adroddiad dywedodd Prifysgol Caerdydd bod pob un o'u staff yn derbyn y Cyflog Byw Cenedlaethol o £8.25 yr awr, a bod yr is-ganghellor yn derbyn cyflog oedd yn "gystadleuol" o'i gymharu â phrifysgolion eraill o statws tebyg.
"Mae defnydd o staff asiantaeth yn gyffredin yn y sector addysg uwch, ac o fewn Caerdydd mae defnydd o staff asiantaeth yn gyfyngedig o'i gymharu â chyfanswm cost staffio sefydliad o'n maint ni," ychwanegodd y llefarydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth nad oedden nhw'n cyflogi gweithwyr asiantaeth, a bod nifer y staff ar gytundebau dim oriau bellach wedi gostwng i 195, o'i gymharu â'r ffigwr o 664 a roddwyd i Unsain ar gyfer 2014/15.
"Mae Prifysgol Aberystwyth wedi bod yn gweithio'n agos â'r undebau er mwyn lleihau nifer y staff sydd yn cael eu cyflogi ar gytundebau dim oriau, ac i sicrhau bod yr holl gytundebau yn briodol ar gyfer pwrpas y busnes, gan nodi oriau gweithio ble fo'n bosib," meddai'r llefarydd.
Mynnodd Prifysgol Abertawe nad oedd staff oedd heb oriau penodedig mewn tlodi, heb sicrwydd o incwm cyson.
"Rydyn ni'n defnyddio cytundebau o'r fath dim ond mewn ffordd sydd o fudd i'r Brifysgol a'r aelod o staff dan sylw," meddai David Williams, Cyfarwyddwr Andoddau Dynol y brifysgol.
Ychwanegodd bod staff asiantaeth wedi cael eu cyflogi ar gyfer "gwaith byr dymor pan nad yw'n ymarferol recriwtio ar fyr rybudd," a bod nifer ohonynt wedi cael eu cyflogi fel rhan o ddatblygiad eu campws newydd.
Roedd Prifysgol Y Drindod Dewi Sant wedi cyflogi mwy o staff asiantaeth yn 2014/15 oherwydd y broses o uno'r brifysgol, meddai llefarydd, ac mae'r brifysgol hefyd wedi cynnal adolygiad o'u cytundebau dim oriau sydd wedi arwain at fwy o staff yn cael patrwm gwaith sefydlog.
Yn eu hymateb hwythau dywedodd Prifysgol Glyndŵr eu bod yn cyflogi staff ar gytundebau dim oriau ar gyfer digwyddiadau myfyrwyr a sioeau, a bod y nifer sydd yn cael eu cyflogi dan y fath drefn bellach wedi haneru i tua 180.