A487: Cyngor yn gofyn am welliannau
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yng Ngheredigion wedi galw am welliannau i'r A487 yn dilyn cyfres o ddamweiniau dros yr haf.
Fe fydd deiseb yn cael ei chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol fory yn gofyn am ledaenu'r ffordd mewn mannau, a chreu mannau i geir basio ei gilydd.
Y cynghorydd Maldwyn Lewis fydd yn cyflwyno'r ddeiseb ac mae o'r farn mai rhwystredigaeth ymhlith gyrwyr sy'n gyfrifol am nifer o'r damweiniau.
"Mae gyrwyr yn mynd yn rhwystredig ar ôl bod y tu ôl i gerbydau araf am nifer o filltiroedd," meddai.
"Rwy'n credu y byddai mannau pasio wedi eu lleoli yn y mannau cywir yn lleihau rhwystredigaeth a bydd hyn yn lleihau'r risg o yrwyr yn mentro."
Dywedodd y cynghorydd Lewis ei fod wedi casglu tua 1,000 o enwau ar y ddeiseb.
Mae o'n credu y byddai creu ail lon mewn ambell i le yn caniatáu i gerbydau mwy araf symud i'r lon chwith a gadael i eraill oddiweddyd yn ddiogel.
Ddydd Llun bu swyddogion Ceredigion yn cwrdd â swyddogion Llywodraeth Cymru a Diogelwch Ffyrdd Cymru er mwyn trafod yr A487.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn gobeithio datblygu cynllun i ddelio gyda mannau cyfyng a chynnig mwy o gyfleoedd i oddiweddyd ar rai ffyrdd. Ychwanegodd eu bod yn gobeithio rhyddhau mwy o wybodaeth yn fuan.