Dyn o Sir Ddinbych wedi herio offeiriad am gamdriniaeth

  • Cyhoeddwyd
mark murray
Disgrifiad o’r llun,

Fe deithiodd Mark Murray i'r Eidal i siarad â'r tad Romano Nordo

Mae dyn o Sir Ddinbych wedi cael ei gyhuddo o boenydio offeiriad, wedi iddo ei herio ynglŷn ag achosion o gamdriniaeth hanesyddol.

Fe deithiodd Mark Murray o Lanelwy i'r Eidal er mwyn wynebu'r Tad Romano Nardo, a ddysgodd o mewn coleg diwinyddol yn Sir Efrog yn yr 1960au.

Ond nawr mae Mr Murray wedi cael ei alw i ymddangos o flaen llys yn Verona, wrth i'r awdurdodau yno benderfynu a fydd yr achos yn mynd yn ei flaen.

Roedd Mr Murray yn un o 11 dyn ddaeth i setliad gydag Urdd y Comboni yn ymwneud â thrais yn y 1960au a 1970au ym Mirfield, Sir Efrog, ble roedd yn astudio i fod yn offeiriad.

Ond er y cytundeb hwnnw, dyw'r Eglwys ddim wedi cyfaddef eu bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le.

'Hawlio pŵer yn ôl'

Llynedd, 45 mlynedd yn ddiweddarach, dywedodd Mr Murray ei fod wedi teimlo'r angen i wynebu Romano Nardo wyneb yn wyneb.

Dyw'r offeiriad erioed wedi cael ei gyhuddo o drosedd, ac mae heddlu'r DU wedi dweud ei fod yn rhy fregus i gael ei estraddodi.

Dywedodd Mr Murray ei fod wedi gwneud penderfyniad ei hun i deithio i Verona er mwyn "cymryd rhywfaint o bŵer yn ôl".

"Doedd gen i fyth unrhyw bŵer neu reolaeth dros beth ddigwyddodd i mi, y trais rhywiol ddigwyddodd i mi pan oeddwn i'n blentyn, wnaeth neb ei gydnabod," meddai.

"Roeddwn i jyst yn teimlo bod angen i mi fynd i siarad â'r dyn yma... roeddwn i eisiau cydnabyddiaeth, roeddwn i eisiau atebion."

Ffynhonnell y llun, La Repubblica
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth papur newydd La Repubblica ffilmio'r sgwrs

Cafodd ymweliad Mark Murray a'r Tad Nardo ei ffilmio gan bapur newydd yn yr Eidal, La Repubblica.

Yn y fideo, mae Mr Murray yn dweud wrth yr offeiriad am yr effaith negyddol a gafodd ar ei fywyd, ac mae'r offeiriad yn cwympo i'w liniau ac yn gofyn am faddeuant.

Fe siaradodd y ddau am tua 10 munud, ac yna fe siaradodd Mr Murray ag aelodau eraill o Urdd y Comboni.

Ond yn gynharach eleni, wyth mis wedi iddo ymweld â Verona, cafodd ei alw i'r llys ar gyhuddiad o "dresbasu, stelcian ac ymyrryd mewn bywyd preifat".

"Beth am yr ymyrraeth yn fy mywyd i, beth am yr ymyrraeth ym mywydau dwsinau a dwsinau o blant eraill?" holodd Mr Murray.

Dyw Mark Murray ddim wedi teithio i'r Eidal ar gyfer y gwrandawiad.