Dysgu Cymraeg: 'Cic i'r system'
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr iaith wedi croesawu'r cyhoeddiad y bydd gwersi Cymraeg 'Ail Iaith' mewn ysgolion yn cael eu diddymu wedi i Lywodraeth Cymru gydnabod eu bod "wedi methu".
Mae 'ail iaith' yn derm sydd wedi "gwylltio" Hannah Roberts, Dysgwr y Flwyddyn 2016 ers tro.
Fe ofynnodd Cymru Fyw iddi beth yw'r broblem?
'Dim cystal'
Dwi ddim yn hoffi'r term, mae'n gallu bod yn negatif i'r bobl sy'n mynd drwy'r ffrwd 'ail iaith'.
Mae'n gallu rhoi'r argraff nad ydych chi cystal â phobl iaith gynta' achos nad ydych chi wedi cael y cyfle i gael addysg Gymraeg hyd at y pwynt yna efallai.
Dyw e ddim yn deg weithie i bobl sydd wedi dysgu i lefel rugl chwaith lle nad ydyn nhw'n 'ail iaith' rhagor mewn gwirionedd.
Hefyd falle fod y person wedi dysgu ieithoedd eraill cyn Cymraeg, felly falle nad yw hi'n 'ail iaith' i ddechrau.
Dwi'n meddwl fod yna syniad o gwmpas y term o beth ydy rhywun sy'n dysgu Cymraeg fel ail iaith. Mae'n rhywbeth sensitif, mae'n gallu teimlo fel ymosodiad ar ba bynnag ffordd mae'r person yn ei ddefnyddio i gyfathrebu yn eu bywydau.
Dwi ddim yn siŵr beth i'w ddefnyddio yn ei le achos mae angen gwahaniaethu rhwng pobl sy'n mynd i ysgolion Cymraeg ac i ysgolion Saesneg.
Yn fy ngwaith gyda Menter Iaith Blaenau Gwent, Torfaen a Mynwy dwi'n osgoi defnyddio'r term. Rwy'n tueddu defnyddio'r term ysgolion Saesneg ar gyfer y ffrwd 'ail iaith' ac ysgolion Cymraeg ar gyfer ffrwd 'iaith gyntaf'; yn lle dosbarthu pobl yn ôl ei lefel rhuglder, rwy'n cyfeirio at gyfrwng yr ysgol.
'Pawb yn ddwyieithog'
Weithiau rydw i'n meddwl am y term 'dysgwyr' hefyd - a ddylen ni alw pobl sydd bellach yn rhugl neu'n llwyddiannus iawn yn 'ddysgwyr' erbyn hyn?
Achos maen nhw wedi pontio, wedi mynd heibio'r pwynt lle maen nhw wedi dysgu, ac mae pawb yn dal i ddysgu o hyd beth bynnag.
Mae'n wahanol i bawb: mae rhai pobl yn gyfforddus i ddweud nad ydyn nhw'n ddysgwyr rhagor pan maen nhw wedi cyrraedd pwynt arbennig ond mae beth yw'r pwynt yna yn wahanol i bawb - mae'n dibynnu ar y person.
Os ydych chi'n meddwl amdano fe, mae mwy neu lai pawb yng Nghymru, i ryw raddau, yn ddwyieithog. Ble ar y scale maen nhw, dwi ddim yn siŵr.
Falle eu bod nhw ddim ond yn gwybod sut i ddweud "bore da" neu "p'nawn da" ond mae hwnna'n rhyw fath o ddwyieithrwydd.
Falle bod y person rhywle yn y canol, eu bod nhw'n gallu cynnal sgwrs ond nad oes digon o hyder gyda nhw. Ond maen nhw yn gallu siarad Cymraeg.
Wedyn mae 'na bobl sy'n gallu byw eu bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg trwy'r amser. Mae pawb rhywle ar y scale.
Ysbrydoli
Ond mae angen newid arferion pobl hefyd, dyna beth sy'n anodd a dyna beth fydd yn anodd siŵr o fod wrth geisio codi niferoedd siaradwyr Cymraeg achos cyn gynted ag y mae rhywun yn dod i arfer gyda rhywbeth dydyn nhw ddim eisiau newid.
Es i trwy ffrwd ail iaith yr ysgolion Saesneg ac roedd rhaid inni wneud y pwnc yn yr ysgol a falle fod hwnna'n broblem hefyd, yn enwedig gyda phobl ifanc, achos mae'n dibynnu pwy sy'n eich dysgu chi. Ydyn nhw'n eich ysbrydoli? Rydych chi yn eu dwylo nhw ac os nad ydych chi'n cael profiad da yn yr ysgol mae'n mynd i effeithio ar beth rydych chi'n meddwl o'r Gymraeg hefyd.
Mae'r system yn gallu bod yn ffurfiol iawn o ran dysgu yn yr ysgolion, maen nhw'n canolbwyntio llawer ar arholiadau yn lle cyfathrebu neu gwaith ar lafar, sy'n bwysicach.
Beth sy'n gymhleth ydy fod y rhan fwyaf o ddisgyblion yr ysgolion Cymraeg, yn enwedig yn yr ardal hon yn y de ddwyrain, yn dod o deuluoedd di-Gymraeg. Ond beth bynnag yw'r iaith gartref, a falle nad Saesneg yw honno, yn y pen-draw maen nhw'n cael eu hystyried yn iaith gyntaf, er eu bod nhw wedi dysgu Cymraeg.
Dydi pobl ddim yn eu hystyried nhw fel dysgwyr ond ar y llaw arall mae pawb sy'n mynd i ysgolion ail iaith, neu Saesneg, yn mynd drwy'r broses sydd wastad yn cael ei galw'n ail iaith. Wel falle 'dyw hwnna ddim yn deg; 'falle bod rhai ohonyn nhw'n dod o deuluoedd Cymraeg, mae hwnna'n digwydd nawr ac yn y man.
Does dim angen rhoi pethau mewn pigeon hole a'r pwynt i fi ydy codi ymwybyddiaeth ynglŷn ag a ydy hi'n deg ac yn briodol i ddefnyddio'r term yna.
Cic i'r system
Nid dim ond mewn ysgolion Saesneg mae'r problemau chwaith, mae'n broblem mewn ysgolion Cymraeg lle nad ydyn nhw'n defnyddio Cymraeg fel iaith gymdeithasol, mae hi fwy fel iaith fiwrocrataidd.
Mae dwy ochr i'r peth a falle mai'r system yw'r broblem neu'r termau rydyn ni'n eu defnyddio, dwi ddim yn gwybod.
Erbyn hyn rydych chi'n gallu dysgu mewn ffyrdd hollol wahanol, dych chi'n gallu gwneud e drwy Skype, 'dych chi'n gallu jyst siarad 'da rywun, falle mai dyna beth mae addysg angen edrych arno achos mae ffyrdd gwahanol i ddysgu erbyn hyn, falle tase nhw'n cyflwyno hwnna i'r system falle bydde hynny'n rhoi cic i rywun!