Cyhoeddi'r arweinydd Llafur - ond beth wedyn?

  • Cyhoeddwyd
Jeremy Corbyn ac Owen SmithFfynhonnell y llun, PA

Bydd y blaid Lafur yn cyhoeddi ei arweinydd newydd mewn cynhadledd arbennig yn Lerpwl ddydd Sadwrn.

Mae Aelod Seneddol Pontypridd, Owen Smith yn herio Jeremy Corbyn am y brif swydd, yn dilyn rhwyg rhwng yr aelodau seneddol a'r arweinydd.

Ond yr aelod dros Ogledd Islington yw'r ceffyl blaen, a'r disgwyl yw y bydd o'n ennill eto, dim ond blwyddyn ar ôl iddo gipio'r ornest ddiwethaf.

Bryd hynny fe enillodd yn gyfforddus gyda 59.9% o'r bleidlais.

640,500 o bleidleiswyr

Roedd 640,500 o bobl yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad hwn - 343,500 o aelodau llawn, 168,000 o aelodau sy'n gyswllt ag undebau a 129,000 cefnogwyr cofrestredig, wnaeth dalu £25 i gael pleidleisio.

Mae gan Jeremy Corbyn gefnogaeth gref ymysg aelodau, ond does ganddo ddim hyder y mwyafrif o'i Aelodau Seneddol, sy'n poeni na fyddai'n gallu ennill etholiad cyffredinol.

Wedi cyfres o ymddiswyddiadau o'i gabinet, a phleidlais o ddiffyg hyder yn ei erbyn, daeth yr her i'w arweinyddiaeth ddechrau'r haf.

Ac wedi brwydr sydd wedi rhwygo'r blaid, yr her i'r enillydd yw sicrhau undeb o fewn y blaid.

Cadw'n glir o'r cabinet

Ond os yw Owen Smith yn colli, fydd o ddim yn ail ymuno a chabinet Jeremy Corbyn.

"Dwi ddim yn credu y gall o ail-adeiladu enw da y blaid yn y wlad, felly fydda'i ddim yn ymuno a chabinet Jeremy," meddai'n ddiweddar.

"Ond fe fyddai'n gwneud beth yr ydw i wastad wedi'i wneud sef bod yn Llafurwr, pleidleisio Llafur a gwasanaethau'r blaid yn ffyddlon.

"Gwneud yn siŵr o'r meinciau cefn fy mod yn parhau i wneud dadleuon y bum yn ei gwneud yn ystod yr ymgyrch, er mwyn sicrhau bod Llafur yn cael ei gweld eto fel plaid gredadwy, er mwyn ein harwain yn ôl i rym."

'Trobwynt'

Mae Jeremy Corbyn yn addo "llechen lan" os ydi o'n ennill.

"Cyn belled a 'dwi yn y cwestiwn, fe fydd yna lechen lan y penwythnos hwn," meddai.

"Os ydw i'n cael fy ail-ethol, byddaf yn estyn allan a gweithio gyda phob AS Llafur i ffurfio gwrthblaid eang ac effeithiol i'r llywodraeth geidwadol ddi-glem yma."

Dywedodd hefyd y bydd y gynhadledd yn Lerpwl yn "drobwynt", ac y bydd o'n gallu troi'r blaid yn sefydliad fydd yn gallu ennill etholiad cyffredinol yn 2020.

Bydd y cyhoeddiad yn cael ei wneud am 11:45 ddydd Sadwrn, ddiwrnod cyn i gynhadledd flynyddol y blaid ddechrau ar y Sul.