Band eang araf yn 'un o brif bryderon pobl Cymru'
- Cyhoeddwyd
Mae mwyafrif pobl Cymru yn credu y dylai gwella cysylltiadau band eang fod yn un o brif flaenoriaethau'r llywodraeth, yn ôl arolwg newydd.
Dywedodd 48% o oedolion eu bod yn poeni nad oedd eu cyswllt we yn ddigon da i ddelio â heriau'r dyfodol.
Ond yn ôl yr arolwg o 2,000 gan ComRes, dyw tri o bob deg person yng Nghymru ddim hyd yn oed yn teimlo bod eu cyswllt band eang yn ddigon dibynadwy ar gyfer eu defnydd presennol.
Roedd dros hanner hefyd yn credu bod gwella rhwydwaith band eang Prydain yn bwysicach na phrosiectau megis pwerdy niwclear newydd Hinckley Point C a llinell drên HS2.
Yn ddiweddar derbyniodd Ofcom 75,000 o ymatebion i'w ymgynghoriad ar newidiadau i rwydwaith Openreach BT, gyda 4,000 o'r sylwadau hynny'n dod o Gymru.
'Ardaloedd gwledig dan anfantais'
Cafodd yr arolwg ei chomisiynu gan ymgyrch 'Fix Britain's Internet', sydd yn cynnwys cwmnïau cyfathrebu mawr fel Sky, TalkTalk, Three, Vodafone ac FCS, ac maen nhw eisoes wedi galw am gysylltiadau gwell ar draws y wlad er mwyn cryfhau economi digidol Prydain.
Dywedodd A.S. Plaid Cymru, Hywel Williams bod busnesau busnesau mewn ardaloedd gwledig yn dioddef yn rhannol oherwydd "amharodrwydd" BT i fynd ati ar frys i wella'r gwasanaeth.
"Mae uwchraddio isadeiledd digidol yn hanfodol er mwyn sicrhau nad yw ein heconomi ni yn cael ei hanfanteisio, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig fel y cymundeau rydw i'n ei gynrychioli," meddai A.S. Arfon.
"Mae'r sefyllfa bresennol hefyd yn anfanteisio busnesau ac fe allai arwain at gyflogwyr yn meddwl ddwywaith cyn buddsoddi yn y fath ardaloedd."
Ychwanegodd Sarah Lee, Pennaeth Polisi y Gynghrair Cefn Gwlad y dylai buddsoddi mewn band eang i ardaloedd gwledig fod yn "ganolog" i weledigaeth y llywodraeth er mwyn gwella potensial economaidd y cymunedau hynny.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ganddyn nhw eisoes gynllun dros y pum mlynedd nesaf i geisio sicrhau cyswllt band eang cyflym a dibynadwy i bob cartref yng Nghymru.
"Rydym yn ymrwymedig i sicrhau bod Cymru'n dod yn genedl gwirioneddol ddigidol," meddai.
"Mae rhaglen Superfast Cymru yn stori o lwyddiant aruthrol i Gymru gyda dros 610,000 o adeiladau bellach yn gallu cael band eang cyflym iawn, a mwy yn mynd i gael yr opsiwn o elwa o'r dechnoleg wrth iddo ddod yn fwy cyffredin.
"Mae Superfast Cymru yn adeiladu'r isadeiledd er mwyn dod â band eang cyflym iawn i rannau o Gymru ble nad oes gan gwmnïau masnachol gynlluniau i wneud."