Gwobrwyo'r goreuon yn BAFTA Cymru
- Cyhoeddwyd
![Actorion](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/6D87/production/_91493082__91493425_terry_jones_bafta_02-2.jpg)
Michael Palin yn cyrraedd gyda Terry Jones
Fe gafodd yr actor Terry Jones - un o sêr Monty Python - wobr arbennig am ei gyfraniad i'r byd adloniant yn seremoni BAFTA Cymru nos Sul.
Derbyniodd y wobr am Gyfraniad i Ffilm a Theledu gan Michael Palin, a ddywedodd ei fod yn "gyfaill arbennig".
Ymysg enillwyr amlwg eraill y noson oedd y Gwyll - a enillodd y wobr am y ddrama deledu orau.
Fe gafodd un o sêr y gyfres honno, Mali Harries, y wobr am yr actores orau am ei pherfformiad fel y detectif arolygydd Mared Rhys.
Cafodd y ffilm Yr Ymadawiad noson lwyddianus yn ogystal, gyda Mark Lewis Jones yn fuddugol yng nghategori'r actor gorau.
Mali Harries: Actores orau
Mewn golygfa emosiynol, fe gyflwynodd Michael Palin y wobr arbennig i Terry Jones, sy'n wreiddiol o Fae Colwyn.
Ei fab, Bill, dderbyniodd y wobr ar ei ran, am fod yr actor a'r awdur yn dioddef o ddementia sydd yn effeithio ar ei allu i siarad.
Fe ddywedodd Bill Jones fod hyn yn "anrhydedd arbennig" mewn cyfnod anodd.
![Sian a Leo](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/624/cpsprodpb/259B/production/_91472690__88411314_revenant2.jpg)
Siân Grigg yn gweithio â Leonardo di Caprio ar ffilm The Revenant
Yn gynharach yn y noson fe ymddangosodd yr actor o Hollywood, Leonardo DiCaprio, mewn neges fideo arbennig i roi teyrnged i Sian Grigg.
Roedd BAFTA Cymru wedi cyhoeddi eisoes mai'r artist colur oedd yn derbyn Gwobr Siân Phillips eleni.
Mark Lewis Jones: Actor Gorau
Y Gwyll enillodd wobr gynta'r noson am y ddrama deledu orau.
Wedi'r dechrau da, roedd 'na fwy o lwyddiant i'r ddrama sydd wedi ei lleoli yng Ngheredigion, gyda Mali Harries yn cipio'r wobr am yr actores orau.
Mark Lewis Jones gafodd y wobr am yr actor gorau am Yr Ymadawiad, ffilm sy'n adrodd stori dau gariad sy'n cael eu hachub gan ddyn wedi damwain car mewn ardal fynyddig yng Nghymru.
Roedd 'na ddwy wobr arall i'r ffilm hefyd, gan gynnwys i'r awdur Ed Talfan.
![Kizzi Crawford](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/976/cpsprodpb/13BC7/production/_91493808_kizzi.jpg)
Kizzi Crawford yn perfformio
Roedd 'na dair gwobr i gyd i Mr Calzaghe, sef ffilm ddogfen am yrfa y paffiwr Joe Calzaghe.
Llwyddodd rhaglen Argyfwng y Mudwyr gipio gwobr i Newyddion 9, cynhyrchiad BBC Cymru i S4C, oedd yn dilyn yr argyfwng oedd yn datblygu yn Ewrop, gyda'r wobr yng nghategori Materion Cyfoes hefyd yn mynd i dîm Week In Week Out am y rhaglen Life After April.
Fe aeth y wobr am y darllediad allanol byw gorau i Côr Cymru ar S4C i raglen Y Rownd Derfynol.
Music for Misfits: The Story of Indie, sy'n olrhain hanes cerddoriaeth indie ym Mhrydain, wnaeth ennill yng nghategori y gyfres ffeithiol.
Llwyddodd Dr Who hefyd i gipio gwobr yn y categori Effeithiau Gweledol Arbennig, gyda dwy wobr hefyd i raglen ddogfen All in The Mind gyda Tim Rhys Evans.
Bwriad y seremoni yw gwobrwyo darlledu a chynhyrchu ym maes ffilm a theledu yng Nghymru mewn 21 o gategorïau.
Y DJ a'r cyflwynydd Huw Stephens oedd yn cyflwyno'r seremoni gyda'r gantores Kizzy Crawford yn perfformio yn ystod y noson.