Osian Roberts: Angen 'cael gwared ar rwystrau' pêl-droed

  • Cyhoeddwyd
Chris Coleman ac Osian RobertsFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Chris Coleman ac Osian Roberts yn paratoi i herio Awstria a Georgia yr wythnos yma

Mae is-reolwr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wedi dweud bod angen "cael gwared ar unrhyw rwystr" sy'n cadw plant rhag cymryd rhan yn y gêm.

Yn siarad â rhaglen Week In Week Out BBC Cymru dywedodd Osian Roberts y dylai pob plentyn sydd eisiau chwarae pêl-droed gael y cyfle i wneud hynny.

Gyda'r tîm cenedlaethol yn gwneud yn well nag erioed, mae'r rhaglen yn dilyn cyn-ymosodwr Cymru, Dean Saunders, wrth iddo gymryd golwg ar yr hyn sy'n cael ei wneud i feithrin y Gareth Bale neu'r Aaron Ramsey nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud bod cymorth ariannol ar gael i glybiau lleol.

Dywedodd Roberts: "Yn ddiweddar roeddwn i'n siarad gyda phobl yng Ngwlad yr Iâ, ble maen nhw'n rhoi tocyn gwerth £150 i bob plentyn, pob blwyddyn, i'w wario ar unrhyw chwaraeon y maen nhw eisiau cymryd rhan ynddo.

"Chi sy'n dewis sut dy'ch chi eisiau ymarfer a chymryd rhan mewn chwaraeon, ond fe wnawn ni gael gwared ar unrhyw rwystr.

"A hynny sy'n rhaid i ni ei wneud: cael gwared ar y rhwystrau sy'n cadw plant rhag cymryd rhan yn ein gêm."

Elw o £3m

Fe wnaeth llwyddiant Cymru yn Euro 2016 greu £3m o elw i'r Gymdeithas Bêl-droed i'w wario ar bob lefel o'r gêm.

Mae'r chwaraewr canol cae, Joe Allen wedi croesawu'r gwariant, gan ddweud ei fod yn gobeithio y bydd yn helpu teuluoedd sydd ddim yn gallu rhoi cymaint o gefnogaeth i'w plant.

Dywedodd wrth y rhaglen pa mor bwysig oedd cefnogaeth ei deulu i'w lwyddiant ef, ond ei fod yn gwybod nad yw eraill mor ffodus.

"Heb y gefnogaeth yna, byddwn i byth wedi gallu ei gwneud hi fel pêl-droediwr," meddai.

"Roedd gennym ni enghreifftiau yn fy nhîm i yn Abertawe - oedd, roedd ganddyn nhw dalent, ond roedd hi'n anodd i'r teuluoedd i roi'r gefnogaeth yna iddyn nhw.

"Felly mae hynny'n ardal arall, rwy'n gobeithio, y bydd arian yn cael ei wario."

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Joe Allen sgorio ei gôl gyntaf i'r tîm cenedlaethol yn erbyn Moldova fis diwethaf

Er bod llwyddiant Cymru ar y cae wedi rhoi hwb i'r gêm ar lawr gwlad, fe wnaeth arolwg diweddar gan Chwaraeon Cymru awgrymu bod 'na fwy fyddai'n hoffi cymryd rhan ond sydd ddim yn gwneud ar hyn o bryd.

Mae Chwaraeon Cymru yn darparu grantiau a chyngor i helpu clybiau gydag offer a hyfforddwyr, ond problem arall i bêl-droed ar lawr gwlad yw'r tywydd.

Dywedodd Saunders fod angen mwy o gaeau modern, 3G, i alluogi plant i gyrraedd eu potensial.

Mae strategaeth i osod 100 o gaeau 3G ar draws Cymru erbyn 2020, ac mae 44 o gaeau eisoes ar gael i glybiau i'w defnyddio.

Ond mae rhai wedi dweud nad yw defnyddio'r caeau yma'n ymarferol i glybiau lleol, gan eu bod yn ddrud i'w rhentu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dean Saunders bod y diffyg caeau 3G yn peryglu potensial chwaraewyr ifanc

Dywedodd y gweinidog sy'n gyfrifol am chwaraeon ar lawr gwlad yng Nghymru, Rebecca Evans, bod help ariannol ar gael i glybiau lleol er nad oes arian penodol wedi'i glustnodi ar gyfer rhentu caeau.

"Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi mwy na £20m o nawdd i Chwaraeon Cymru pob blwyddyn ac maen nhw wedyn yn pasio'r nawdd ymlaen i sefydliadau fel Ymddiriedolaeth Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac eraill i geisio annog pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a chefnogi eu huchelgais," meddai.

Week In Week Out: Keeping the Euros Dream Alive, 22:40 ddydd Mawrth, BBC One Wales.