Gwahardd aelodau o staff uned iechyd meddwl ym Mae Colwyn

  • Cyhoeddwyd
Uned Bryn HeskethFfynhonnell y llun, Google

Mae chwe aelod o staff wedi eu gwahardd o'u gwaith mewn uned iechyd meddwl ym Mae Colwyn.

Cafodd y staff yn uned Bryn Hesketh eu gwahardd ddydd Iau wythnos diwethaf yn dilyn pryderon gan aelod arall o staff am rai agweddau o ofal cleifion.

Mae ymchwiliad annibynnol wedi dechrau, sy'n cael ei arwain gan aelod o staff o fwrdd iechyd Cymreig arall.

Mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, sy'n rhedeg Bryn Hesketh, wedi cyflogi staff dros dro er mwyn rhedeg yr uned heb effeithio ar nifer y gwelyau sydd ar gael yno.

Mae uned Bryn Hesketh yn uned ar gyfer cleifion iechyd meddwl hŷn sydd yn Ysbyty Gymunedol Bae Colwyn. Cafodd ei hagor yn 1995 ac mae gwefan y bwrdd iechyd yn ei disgrifio fel uned sy'n cynnig gofal tymor hir, yn ogystal â chyfleusterau ysbyty am y dydd i gleifion yn ardal Bae Colwyn.

Cafodd rhai cleifion a staff eu trosglwyddo yno yn Rhagfyr 2013 yn dilyn cau uned seiciatryddol Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd o achos pryderon am safon a diogelwch gofal cleifion.

Nid yw Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi dweud os oedd rhai o'r staff gafodd eu gwahardd wythnos diwethaf wedi gweithio ar ward Tawel Fan yn y gorffennol.

Bwrdd Iechyd

Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: "Mae gennym systemau a phrosesau cadarn yn eu lle i fonitro ansawdd a diogelwch y gofal sy'n cael ei ddarparu ym mhob un o'n gwasanaethau iechyd meddwl. Os oes pryder yn cael ei godi gan aelod o staff, byddwn yn ymateb syth, a bydd yn cael ei uwchgyfeirio fel bo'n briodol.

"Yr wythnos ddiwethaf, cafodd pryder yn ymwneud ag un o'n hunedau Iechyd Meddwl Pobl Hŷn, Bryn Hesketh ym Mae Colwyn ei godi. Cafodd ei uwchgyfeirio at y tîm rheoli Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu yr un diwrnod a'i godwyd.

"Rydym wedi dilyn y Broses Ddiogelu yn unol â Chanllawiau Cymru Gyfan ac wedi gwneud cyfeiriad at Awdurdod Lleol Conwy. Er mwyn cryfhau ein prosesau ymhellach, rydym wedi ceisio gwasanaeth swyddog ymchwiliadau allanol annibynnol.

"Mae'r ymchwiliad yn cynnwys chwe aelod o staff, sydd wedi cael eu gwahardd yn unol â gweithdrefnau. Mae'n bwysig pwysleisio bod hyn yn weithred niwtral.

"Nid ydym yn gallu rhannu unrhyw fanylion pellach am y mater hwn tra bod yr ymchwiliad ar y gweill."

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa a bod swyddogion wedi cael gwybod pa fesurau sydd ar waith i warchod cleifion.