Sir Gâr yn ennill apêl yn erbyn tair o'r safonau iaith

  • Cyhoeddwyd
Cyngor Sir Gaerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,

Fe heriodd Cyngor Sir Gaerfyrddin dair o'r safonau iaith

Mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi ennill apêl yn erbyn tair o Safonau Iaith Comisiynydd y Gymraeg, sy'n golygu na fydd yn rhaid iddyn nhw eu gweithredu.

Cafodd y safonau iaith eu cyflwyno ym mis Mawrth er mwyn gosod dyletswyddau cyfreithiol newydd ar gynghorau sir, Llywodraeth Cymru a'r parciau cenedlaethol i ddarparu gwasanaethau yn yr iaith.

Ond daeth i'r amlwg ym mis Mai bod awdurdodau wedi cyflwyno cyfanswm o 273 o heriau i'r safonau.

Nes yn ddiweddar, roedd Sir Gaerfyrddin yn cael ei ystyried yn un o gadarnleoedd yr iaith Gymraeg, ond wedi i ganlyniadau Cyfrifiad 2011 ddangos gostyngiad pellach yn nifer y trigolion sy'n medru'r iaith, mae galw wedi bod am weithredu ar frys i atal gostyngiad pellach.

O ganlyniad, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi paratoi strategaeth i hybu'r iaith Gymraeg yn y sir dros bum mlynedd, a bydd yr awdurdod yn gorfod gweithredu dros 170 o safonau ieithyddol.

Yn ôl y cyngor, maen nhw'n bwriadu defnyddio'r Gymraeg fel prif iaith weinyddol yr awdurdod yn y pendraw.

Ond fydd yr awdurdod ddim yn gorfod gweithredu tair safon yn ymwneud â chynnal rhai cyfarfodydd arbennig trwy gyfrwng y Gymraeg - heb ddefnyddio cyfieithydd - ar ôl i Gomisiynydd y Gymraeg gytuno i dair apêl gan y cyngor sir.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Meri Huws wedi cytuno i dair apêl gan Gyngor Sir Gaerfyrddin

Mae Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg wedi cadarnhau ei bod wedi derbyn yr heriau.

Dydy'r datblygiad ddim wrth fodd ymgyrchwyr iaith.

Yn ôl Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r ffaith fod yr awdurdod wedi gofyn am gael ei eithrio o rai o'r safonau yn anfon y neges anghywir.

"Mae'n rhoi'r argraff, yn lle bod Sir Gaerfyrddin yn rhoi arweiniad i Gymru gyfan, fel rydyn ni eisiau ei weld yn digwydd, mae e fel 'se Sir Gaerfyrddin yn trio dod mas o'i chyfrifoldebau," meddai.

Mae cais wedi ei wneud i Gyngor Sir Gaerfyrddin am eu hymateb i'r newyddion.

Disgrifiad,

Rhai o bobl tre Caerfyrddin yn cael eu holi a oedd hi'n rhesymol i bobl allu cynnal cyfarfod yn llwyr drwy gyfrwng y Gymraeg gyda'r Cyngor heb gymorth cyfieithydd?

Mae rhyw 13 o gynghorau eraill yn herio safonau iaith y Comisiynydd, gyda Chyngor Mynwy hefyd wedi ennill apêl ynglŷn â gwasanaethau yn ei derbynfa.

Ond bydd yna syndod gan lawer bod awdurdod fel Sir Gâr, sydd wedi bod mor llafar dros ddyfodol yr iaith, wedi ymladd yn erbyn mesurau sydd i fod i wella'r ddarpariaeth i siaradwyr Cymraeg.

Y safonau y llwyddodd Sir Gâr i'w herio:

Safon 27CH: Os byddwch wedi gwahodd mwy nag un person i gyfarfod (nad yw'n ymwneud â llesiant un neu ragor o'r unigolion a wahoddir), a bod pawb a gafodd wahoddiad wedi eich hysbysu eu bod yn dymuno defnyddio'r Gymraeg yn y cyfarfod, rhaid ichi gynnal y cyfarfod yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 28: Os byddwch yn gwahodd mwy nag un person i gyfarfod, a bod y cyfarfod hwnnw yn ymwneud â llesiant un neu ragor o'r unigolion a wahoddwyd, rhaid ichi - (a) gofyn i'r unigolyn hwnnw neu i bob un o'r unigolion hynny a yw'n dymuno i'r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, a (b) os yw'r unigolyn hwnnw, neu os yw pob un o'r unigolion hynny, yn eich hysbysu ei fod yn dymuno i'r cyfarfod gael ei gynnal yn Gymraeg, cynnal y cyfarfod hwnnw yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).

Safon 73: Os byddwch yn cael cais am grant yn Gymraeg, a bod angen cyfweld ag ymgeisydd fel rhan o'ch asesiad o'r cais, rhaid ichi gynnig cynnal y cyfweliad yn Gymraeg ac, os yw'r ymgeisydd yn dymuno hynny, rhaid ichi gynnal y cyfweliad yn Gymraeg (heb gymorth gwasanaeth cyfieithu ar y pryd na gwasanaeth cyfieithu olynol).