Cau Theatr Ardudwy ar unwaith am resymau diogelwch

  • Cyhoeddwyd
Theatr ArdudwyFfynhonnell y llun, Arthur C.Harris

Mae Theatr Ardudwy yn Harlech wedi ei gorfodi i gau ar unwaith am resymau diogelwch.

Cadarnhaodd cadeirydd y theatr, Ben Ridler wrth Cymru Fyw, eu bod wedi derbyn llythyr gan gyfreithwyr Cymdeithas Addysg y Gweithwyr - perchnogion yr adeilad a Choleg Harlech gerllaw - yn eu gorchymyn i gau ar unwaith.

O ganlyniad, mae ffilm "The Magnificent Seven", oedd i fod i gael ei dangos nos Iau, wedi ei gohirio, a gweithdy celf oedd i fod yno ddydd Sadwrn wedi cael ei symud i leoliad arall.

Does dim sicrwydd eto a fydd digwyddiadau eraill yn ddiweddarach yn y mis yn mynd yn eu blaenau.

"Rydan ni'n cymryd cyngor cyfreithiol ar y foment," meddai Mr Ridler.

Yn gynharach eleni, cafodd system sinema ddigidol gwerth £100,000 ei gosod yn y theatr.

Sicrhau diogelwch

Mewn datganiad, dywedodd WEA YMCA CC Cymru, sy'n gyfrifol am y safle, fod yna gamau ar y gweill i sicrhau diogelwch staff ac ymwelwyr a'r ganolfan: "Mae safle'r theatr yn Harlech, sy'n edrych allan dros Fae Ceredigion, wedi dirywio i'r graddau nes ei fod yn beryglus i ymwelwyr a staff.

"Mae WEA YMCA CC Cymru ar hyn o bryd yn cynorthwyo Theatr Ardudwy Cyf i ddod o hyd i ganolfan newydd all gynnal gweithgareddau, fel y gymdeithas ffilm, dangosiadau ffilm ac arddangosfeydd.

Dywedodd Prif Weithredwr WEA YMCA CC Cymru, Mark Isherwood: "Mae arolwg yn dangos dirywiad yn adeilad Theatr Ardudwy sy'n peryglu'r cyhoedd. Tra bo dewisiadau ar gyfer y dyfodol yn cael eu hystyried, rhaid i ni sicrhau ein bod yn ystyried diogelwch y cyhoedd a'n bod yn cymryd y camau priodol.

"Rydym ar hyn o bryd yn gweithio gyda Theatr Ardudwy er mwyn trefnu y gall gweithgareddau barhau."