Medal y Frenhines am wyddoniaeth i John Meurig Thomas

  • Cyhoeddwyd
Syr John Meurig ThomasFfynhonnell y llun, Nathan Pitt

Bydd Syr John Meurig Thomas yn derbyn Medal Frenhinol y Gwyddorau mewn cinio arbennig ddydd Mercher.

Mae'r fedal - sydd hefyd yn cael ei hadnabod fel Medal y Frenhines - yn cael ei rhoi ar sail argymhellion cyngor y Gymdeithas Frenhinol er mwyn cydnabod cyfraniadau pwysig i'r gwyddorau.

Bydd Syr John yn derbyn y fedal am ei waith arloesol mewn cemeg catalytig.

Ymhlith cyn-enillwyr y fedal mae Charles Darwin a Michael Faraday.

Catalyddion cemegol

Mae Syr John Meurig Thomas, a raddiodd yn wreiddiol o Brifysgol Abertawe, wedi bod yn bennaeth Adran Cemeg Ffisegol Prifysgol Caergrawnt, ac yn Gymrodor Coleg y Brenin, Caergrawnt cyn dod yn Ddirprwy Is-Ganghellor ym Mhrifysgol Ffederal Cymru.

Prif faes llafur Syr John yw catalyddion cemegol sy'n cyflymu adweithiau cemegol, ac mae wedi datblygu catalyddion sy'n defnyddio llai o ynni a ddim yn dirywio yn y broses.

Mae felly wedi arwain y ffordd wrth ddatblygu catalyddion 'gwyrdd' sy'n gwneud prosesau cemegol yn fwy effeithlon a llai llygredig.

Disgrifiad,

Aled Huw aeth i gyfarfod Syr John Meurig Thomas yng Nghaergrawnt yn gynharach eleni

Wrth ei longyfarch, dywedodd Steve Wilks o Brifysgol Abertawe: "Syr John Meurig Thomas yw un o gyn-fyfyrwyr mwyaf anrhydeddus ein prifysgol.

"Mae ei waith ymchwil ym maes cemeg ar yr un lefel â gwaith eraill sydd wedi diffinio dulliau modern y gwyddorau, technoleg a mathemateg, gan gynnwys Syr Michael Faraday a fu'n destun llyfr gan Syr John ei hun."