Pryder landlordiaid am effaith rheolau newydd
- Cyhoeddwyd
Mae'r corff sy'n cynrychioli landlordiaid preifat yn poeni am effaith rheolau newydd yn y sector sydd yn dod i rym mewn chwe wythnos.
Yn ôl Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl (RLA) bydd cynllun Rhentu Doeth Cymru yn golygu bod pobl sy'n rhentu eu heiddo ond sydd ddim yn ystyried eu hunain yn landlordiaid yn gallu troseddu.
Mae'r RLA yn poeni am effaith y cynllun ar y farchnad rentu yng Nghymru, gyda llai o gartrefi i'w rhentu oherwydd bod pobl yn anfodlon â'r rheoliadau newydd.
"Mae nifer o landlordiaid sydd falle wedi etifeddu eiddo, ac sydd ddim yn ystyried eu hunain fel landlord achos dim ond un eiddo, falle dau, sydd ganddyn nhw," meddai Ffion Paschalis o asiantaeth dai Maison Lettings yng Nghaerdydd.
"Yn anffodus rheiny yw'r rhai sydd heb gael eu targedu o ran y marchnata, felly dydyn nhw ddim yn ymwybodol o'r ddeddf.
"Mae lot o landlordiaid yn ystyried gwerthu neu'n mynd trwy asiant. Mae lot yn ailystyried cyn prynu mwy o eiddo, neu yn penderfynu eu bod nhw ddim eisiau gosod tai rhagor."
Mae Rhentu Doeth Cymru yn rhan o Ddeddf Tai Cymru 2014, a'r bwriad gan Lywodraeth Cymru yw cael gwell rheolaeth dros y sector rhentu tai er lles pawb sy'n rhan o'r broses.
Yn ôl Ioan Evans o gwmni arwerthu tai Dafydd Hardy fe all y cynllun godi safonau yn y sector.
"Fe wnaiff hi [bethau] bach yn haws i gynghorau lleol, achos pan 'da chi'n meddwl bod un o bob saith o dai erbyn hyn yn dai sy'n cael eu gosod, bydd y cynghorau yn gwybod pwy yw'r landlordiaid, lle mae 'na denantiaid, pwy sydd â chyfrifoldebau," meddai.
Ond fe allai landlordiaid gwael barhau i gynnig gwasanaeth o safon isel, meddai.
"Os oes 'na landlord allan yna sydd ddim yn mynd i gal tystysgrif diogelwch nwy, neu'n gwybod am EPCs, wel y peth olaf maen nhw'n mynd i wneud yw cofrestru a gadael i'r cyngor wybod: 'Dwi'n landlord, dyma fy eiddo i, ac mae gen i denantiaid sy'n byw yn y ty'."
Da i fyfyrwyr
Ynghyd â landlordiaid, mae'r rhai sy'n byw mewn tai wedi eu gosod hefyd yn mynd i gael eu heffeithio gan gynllun Rhentu Doeth Cymru, gan gynnwys myfyrwyr.
Mae Dan Rowbotham, Llywydd Myfyrwyr Prifysgol y Drindod Dewi Sant, croesawu'r rheolau newydd.
"Mae lot fawr [o fyfyrwyr] yn dewis yr ochr breifat erbyn hyn i gael byw efo grwpiau llai," meddai.
"Mae'n opsiwn poblogaidd tu hwnt, ac mae'n bwysig iawn bod pobol yn gallu byw gyda safonau bendigedig i fod yn onest.
"Os chi'n talu'n fisol, chi'n talu'n wythnosol, chi'n disgwyl gwasanaeth, ac oes nad yw'r gwasanaeth yna'n cael ei gwrdd, dylech chi ddim cael byw 'na.
"Mae angen i bobl ddeall, os nad yw e'n cyrraedd y safonau yma, dylech chi ddim cael byw 'na. Dylai'r landlordiaid yna ddim cael gofyn i chi fod yn denant, dylen nhw ddim cynnig y tŷ os nad yw hi'n iawn byw 'na."
Yn eu hymateb hwythau dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nid bwriad hyn yw gwneud pobl yn droseddwyr. Os yw rhywun yn rhentu llety, maen nhw'n landlord.
"Bydd Rhentu Doeth Cymru yn codi safonau yn y sector rhentu preifat ar y cyfan ac wrth wneud hynny fe fydd yn gwella'i enw da sydd, yn anffodus, wedi cael ei niweidio gan landlordiaid ac asiantau gosod drwg a hyd yn oed anghyfreithlon.
"Fe fydd hyn o fudd i denantiaid boed nhw'n rhentu eu cartref yn uniongyrchol gan landlord preifat neu gan asiantaeth osod. Fe fydd hefyd o gymorth i landlordiaid ac asiantau wrth eu diweddaru nhw ar eu cyfrifoldebau a dyletswyddau cyfreithiol."