Galw am fwy o ffilmiau hoyw yn Gymraeg cyn Gŵyl Iris
- Cyhoeddwyd
Mae awdur blaenllaw wedi galw am fwy o ffilmiau Cymraeg sy'n adlewyrchu cymunedau hoyw yng Nghymru.
Bethan Marlow ydy awdur Afiach, y ffilm Gymraeg gyntaf i gael ei dangos yng Ngŵyl Iris.
Eleni mae'r ŵyl, sydd wedi'i lleoli yng Nghaerdydd, yn dathlu degawd o hyrwyddo straeon am gymunedau hoyw, lesbiaid, deurywiol a thrawsrywiol.
Mae'r ŵyl ei hun wedi ariannu cynllun newydd Straeon Iris, sy'n noddi ffilmiau am gymunedau LGBT yng Nghymru.
Swreal
Afiach ydy un o'r ffilmiau i gael eu hariannu eleni. Cafodd ei ddangos ar noson agoriadol yr ŵyl, ac fe fydd hi ar S4C nos Sadwrn.
Dwedodd Bethan Marlow: "Dwi wedi bod eisiau cael stori am ferched hoyw mewn ffilm oedd ddim am y ffaith bo nhw'n hoyw. Oedd hwnna'n rili pwysig i fi, i drio creu stori sydd yn sôn am fywyd cyffredin.
"Ond eto, os nei di watchio Afiach, dydy o ddim yn gyffredin ofnadwy, mae e'n fyd swreal iawn. Ond dwi'n licio meddwl bod y stori sydd o fewn y byd swreal 'na yn real ofnadwy."
Mae Afiach yn delio gyda'r salwch a'r galar sy'n effeithio ar ddwy fenyw sydd mewn perthynas hoyw. Cynllun newydd Iris oedd y cyfle cyntaf i Bethan Marlow allu ysgrifennu gwaith ffilm yn Gymraeg sy'n canolbwyntio ar gymuned hoyw.
"Pan ddaeth Straeon Iris i fyny, hwnna oedd y cyfle i fi cael 'sgrifennu am straeon hoyw yng Nghymru yn Gymraeg, a sylwi rili bod hynna ddim yn digwydd. Ac o feddwl bod yr Iris Prize mor llwyddiannus ag ydy o, ac wedi bod rŵan ers blynyddoedd, mae'r ffaith bod gynnom ni ddim mwy o ffilmiau Gymraeg hoyw yn bechod rili, ac yn rhywbeth sydd angen newid."
Fe fydd 35 o ffilmiau rhyngwladol yn cystadlu am Wobr Iris gwerth £30,000, ond gan fod Afiach wedi'i ariannu gan yr ŵyl dydy hi ddim yn gallu cystadlu am y brif wobr eleni.
'Dal sylw'
Nos Sadwrn bydd S4C yn dangos Afiach, a gobaith Bethan Marlow ydy cyrraedd cynulleidfa fwy eang na'r gymuned LGBT gyda'i ffilm newydd.
"Gobeithio bydd o'n ffilm fydd yn cael ei dangos ac yn dal sylw cynulleidfa eang iawn, achos mae'n stori i bawb rili."
"Mae'r ffilm yn deud straeon sy' ella ddim mor mainstream a ddim mor sterotypical, achos mae hynna yn anffodus yn dal i ddigwydd lot.
"Ond hefyd i roi cymeriadau Cymry Cymraeg sydd hefyd ddim yn stereotypical ac yn mainstream, yn enwedig o fewn byd ffilm. Rwy'n meddwl bod hynny yn bwysig iawn hefyd."